Newyddion S4C

Anhrefn Trelái: Heddlu'r De wedi derbyn fideo yn dangos fan y llu yn dilyn beic

23/05/2023

Anhrefn Trelái: Heddlu'r De wedi derbyn fideo yn dangos fan y llu yn dilyn beic

Mae Heddlu De Cymru wedi derbyn fideo yn dangos fan y llu yn dilyn beic ychydig funudau cyn gwrthdrawiad ffordd difrifol lle bu farw dau fachgen ifanc yn Nhrelái nos Lun.

Mae'r ddau berson ifanc wedi cael eu henwi yn lleol fel Kyrees Sullivan, 16, a Harvey Evans, 15.

Wrth siarad mewn cynhadledd i'r wasg brynhawn Mawrth dywedodd Prif Uwcharolygydd Heddlu De Cymru Martyn Stone fod y llu wedi derbyn lluniau cylch cyfyng sy'n dangos cerbyd heddlu yn dilyn beic cyn gwrthdrawiad ffordd angheuol ar Heol Snowden.

Ond dywedodd nad oedd yna unrhyw gerbydau heddlu ar yr heol honno ar adeg y ddamwain.

"Fe wnaeth cerbyd heddlu ar Grand Avenue ymateb i'r gwrthdrawiad ac fe wnaeth swyddogion roi CPR," meddai'r Prif Uwcharolygydd.  

Yn dilyn y ddamwain fe ymgasglodd cannoedd o bobl yn yr ardal, cafodd ceir eu rhoi ar dân, a chafodd tân gwyllt a gwrthrychau eraill eu taflu at yr heddlu.    

Yn ei ddatganiad brynhawn Mawrth, ychwanegodd y Prif Uwcharolygydd Martyn Stone fod 15 o swyddogion heddlu wedi gorfod cael cymorth meddygol yn dilyn yr anhrefn, gydag 11 wedi mynd i'r ysbyty a phedwar wedi eu trin yn y fan a'r lle. 

Mae'r llu wedi cyfeirio ei hun at yr IOPC sef y swyddfa annibynnol sy'n ymchwilio i ymddygiad yr heddlu.  

Mae'r IOPC wedi cyhoeddi y bydd yn anfon ymchwilwyr i asesu os y bydd yn cynnal ymchwiliad annibynnol.

Dywedodd llefarydd ar eu rhan: "Fe wnaeth Heddlu De Cymru gysylltu â ni y prynhawn 'ma i wneud cyfeiriad ynglŷn â'r amgylchiadau a arweiniodd at y gwrthdrawiad angheuol yn Nhrelái ddoe."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.