Newyddion S4C

Rolf Harris

Rolf Harris wedi marw yn 93 oed

NS4C 23/05/2023

Mae’r cyn-gyflwynydd, a gafodd ei garcharu am nifer o droseddau rhyw hanesyddol, Rolf Harris, wedi marw yn 93 oed ar ôl cyfnod o salwch.

Ar un cyfnod, roedd Harris yn un o sêr teledu mwyaf y DU, ond fe gafodd ei garcharu’n ddiweddarach am ymosod ar ferched ifanc. 

Roedd Harris wedi gwadu'r holl gyhuddiadau yn ei erbyn, ond fe’i cafwyd yn euog o 12 o ymosodiadau rhyw hanesyddol yn erbyn pedair merch a phedwar cyhuddiad o gynhyrchu delweddau anweddus o blant.

Wrth ei ddedfrydu yn 2014 i bum mlynedd a naw mis yn y carchar, dywedodd y barnwr fod Harris wedi manteisio ar ei statws fel person enwog a'i fod heb ddangos unrhyw edifeirwch tuag at ei ddioddefwyr.

Fe ddaeth Harris i Brydain yn 22 oed, a hynny o’i wlad enedigol yn Awstralia yn 1953. Roedd ei rieni wedi ymfudo yno o dde Cymru. Aeth ymlaen i gyflwyno nifer o gyfresi teledu poblogaidd o’r 1960au ymlaen. 

Fe dderbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys MBE, OBE a CBE, cymrodoriaeth BAFTA a doethuriaethau prifysgol er anrhydedd, ac fe gafodd pob un o'r anrhydeddau eu diddymu ar ôl ei euogfarn.

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.