Disgwyl diwrnod poetha’r flwyddyn hyd yma ddiwedd yr wythnos

Gallai rhannau o Gymru fwynhau diwrnod poetha’r flwyddyn hyd yma yn hwyrach yr wythnos hon yn ôl y Swyddfa Dywydd.
Mae dadansoddwyr y tywydd yn dweud y gallai’r tymheredd gyrraedd 24 neu 25 gradd selsiws yn nwyrain Cymru ddydd Iau.
Mae disgwyl i’r tywydd braf barhau tan ddiwedd y mis oherwydd gwasgedd uchel dros Gymru, a bydd unrhyw law tua’r gogledd-orllewin yn diflannu yn gyflym.
Bydd rhywfaint o wynt yn cadw’r tymheredd yn is yn ne-ddwyrain Lloegr sydd fel arfer yn mwynhau tymheredd uchaf y Deyrnas Unedig.
Dywedodd y Swyddfa Tywydd serch hynny nad oedd posibilrwydd am dywydd poeth iawn yn chwythu i fyny o ogledd Affrica fel ag yr oedd ambell wasanaeth newyddion yn honni.
“Os ydych chi wedi credu gormodiaith y cyfryngau a oedd yn dweud y byddai gwres mawr yn dod i’r DU o ogledd Affrica yn ystod y dyddiau nesaf rydych chi’n mynd i gael eich siomi,” meddai.
“Dyw hynny ddim yn wir.
“Ond os ydych chi’n edrych ymlaen at gyfnod o amodau braf, heulog a chynnes ar y cyfan, yna fe gewch chi eich plesio.”
Llun: Aberporth ddydd Sadwrn