Un o ddisgynyddion Lloyd George yn sefyll etholiad am le yn Nhy'r Arglwyddi
Mae un o ddisgynyddion David Lloyd George yn sefyll etholiad am le yn Nhŷ’r Arglwyddi.
Yr Iarll David Richard Owen Lloyd George o Ddwyfor yw gor-ŵyr unig Brif Weinidog Cymreig y Deyrnas Unedig.
Mae’n sefyll yn erbyn dau ymgeisydd arall o blaid y Democratiaid Rhyddfrydol mewn etholiad mewnol am le yn Nhŷ’r Arglwyddi.
Dywedodd ei fod wedi “bod â diddordeb brwd a phersonol mewn gwleidyddiaeth ers fy mlynyddoedd cynnar”.
“Pe bawn i'n cael fy ethol, byddwn i'n ymrwymo i fynychu Tŷ’r Arglwyddi yn rheolaidd,” meddai.
“Byddwn yn neilltuo fy amser a'm hymdrechion i'r Democratiaid Rhyddfrydol ac i fusnes y Tŷ.”
Canlyniadau
Gall yr Iarll Lloyd George sefyll yn yr etholiad am ei fod wedi etifeddu ei deitl.
Ers 1999 dim ond 92 o arglwyddi etifeddol all fod yn Nhy’r Arglwyddi ar un adeg, a pan mae un yn ymddiswyddo neu farw cynhelir etholiad i benderfynu pwy fydd yn cymryd ei le.
Fe fydd gan bob arglwydd etifeddol yn Nhy’r Arglwyddi y gallu i bleidleisio yn yr etholiad yn sgil ymddeoliad yr Is-Iarll Falklands, a oedd yn eistedd fel Democrat Rhyddfrydol.
Bydd canlyniadau’r etholiad yn cael eu cyhoeddi ar 14 Mehefin.
Mae un o'r ymgeiswyr eraill, yr Iarll Russell, hefyd yn ddisgynydd i Brif Weinidog, sef John Russell a fu'n Brif Weinidog ddwywaith rhwng 1846 a 1852 ac yna eto rhwng 1865 ac 1866.