Newyddion S4C

Bomio Manceinion

Ymosodiad Arena Manceinion: 29% o oroeswyr ifanc ‘ddim wedi derbyn cefnogaeth’

NS4C 22/05/2023

Nid yw bron i draean o’r bobl ifanc a wnaeth oroesi bom Arena Manceinion yn 2017 wedi derbyn unrhyw gefnogaeth broffesiynol.

Dyma gasgliad adroddiad newydd sydd wedi ei ryddhau chwe blynedd ers yr ymosodiad terfysgol.

Mae tri chwarter (75%) y plant a phobl ifanc gafodd eu heffeithio yn yr ymosodiad wedi’u hanafu’n seicolegol gan yr hyn a ddigwyddodd iddynt, dywed yr adroddiad.

Ond nid yw 29% o bobl wedi cael unrhyw gymorth seicolegol broffesiynol yn y chwe blynedd ers hynny, gyda phedwar o bob 10 o’r rhain yn dweud na chafodd ei gynnig iddyn nhw erioed.

Mae adroddiad Bee The Difference a gyhoeddwyd ddydd Llun, yn brosiect ymchwil gan, ac ar gyfer goroeswyr ifanc yr ymosodiad, mewn cydweithrediad â’r Ymddiriedolaeth Argyfyngau Cenedlaethol ac ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerhirfryn.

Cafodd 22 o bobl eu llofruddio a channoedd eu hanafu pan gafodd dyfais ei ffrwydro gan Salman Abedi mewn ymosodiad derfysgol hunanladdiad, yng nghyntedd Arena Manceinion ar ddiwedd cyngerdd Ariana Grande.

Fe wnaeth dros 200 o oroeswyr ifanc, oedd o dan 18 oed ar adeg yr ymosodiad, gymryd rhan yn yr ymchwil.

Dywedodd Dr Cath Hill, ymchwilydd arweiniol ym Mhrifysgol Caerhirfryn: “Mae’r canfyddiadau’n dangos y gall y weithred syml o wrando ar farn pobl ifanc wneud gwahaniaeth enfawr i’w lles, ac mae’n rhywbeth y gallai pob oedolyn mewn swyddi gofal fod yn fwy ystyriol ohono pe mae'r gwaethaf yn digwydd eto."

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.