Galwadau i gau mynediad answyddogol i draeth ar Ynys Môn

Mae galwadau i gau mynediad answyddogol i draeth ar Ynys Môn er mwyn gwarchod yr amgylchedd yno.
Daw hyn yn sgil ceir a faniau gwyliau yn defnyddio mynediad ar ddiwedd traeth Lleiniog er mwyn parcio wrth ochr y môr.
Mae cerbydau wedi bod yn pasio trwy fwlch wrth y safle parcio picnic ger Penmon er mwyn cael mynediad i’r traeth a darn gwair.
Nawr, mae’r cyngor cymunedol yn annog Cyngor Ynys Môn i rwystro’r cerbydau rhag defnyddio’r ffordd oherwydd pryderon y gallai‘r cerbydau greu erydiad ac oherwydd diogelwch y cyhoedd.
Mae traeth Lleiniog a’r ardal gyfagos yn rhan o 6 cilomedr sydd wedi nodi fel ardal o ddiddordeb gwyddonol arbennig ac o lwybr Arfordir Ynys Môn.
Dywedodd clerc Cyngor Cymuned Llangoed a Phenmon Alun Foulkes:
“Nid ydym eisiau pobl yn parcio yna, nid yn unig oherwydd eu diogelwch, gyrru cerbyd mor agos i’r dŵr, ond yn bennaf er mwyn osgoi erydu pellach o’r safle. Mae wedi bod yn broblem yna ers tipyn ac yn ardal warchodedig.
“Nid ydym am rwystro pobl rhag mwynhau’r ardal, dim ond gofyn i bobl peidio â pharcio yna ond gadael eu cerbydau yn y maes parcio.
“Mae tipyn o waith wedi ei wneud yn yr ardal sydd efallai wedi cyfrannu at ddelwedd y cyhoedd o fynediad i’r safle.
“Roedd tipyn o waith yno yn dilyn cais cynllunio diweddar i wneud gwaith diogelwch y llanw mewn tŷ cyfagos.
"Rwy’n credu y dylai’r cyngor gau diwedd y maes parcio fel nad yw cerbydau yn gallu cael mynediad.”
Mae traeth Lleiniog yn nodedig am hanes daearegol gyda nifer o gerrig rhewlifol o bwys yno sy’n denu gwyddonwyr a daearegwyr i’w hastudio.