Newyddion S4C

JD Mack

Pwy yw’r Cymry cyfoethog? Cyhoeddi rhestr gyfoeth y Sunday Times

NS4C 21/05/2023

Mae nifer o Gymry ymhlith rhestr pobl fwyaf cyfoethog Prydain y Sunday Times.

Mae’r papur wedi cyhoeddi’r rhestr flynyddol gan gynnwys pobl lwyddiannus o Gymru.

Syr Michael Moritz o Gaerdydd sydd uchaf ar y rhestr o Gymry yn safle 56 gyda chyfoeth o £3.333 biliwn ar ôl buddsoddi mewn cwmnïau technoleg y wê.

Mae Syr Terry Matthews, o Gasnewydd, yn safle 130 ar y rhestr am ei fusnesau telegyfathrebu gyda chyfoeth o £1.333 biliwn.

Mae Henry Engelhardt, sylfaenydd y cwmni yswiriant ceir Admiral sydd â swyddfeydd yng Nghymru, yn safle 194 gyda chyfoeth o £863miliwn.

Mae Steve Morgan sydd wedi sefydlu cwmni adeiladu Redrow yng ngogledd Cymru yn werth £784 miliwn ac yn rhif 220 ar y rhestr.

Gopi Hinduya a’i deulu o fyd diwydiant a chyllid sydd ar frig y rhestr gyda chyfoeth o £35 biliwn.

Mae Brenin Charles III yn rhif 263 ar y rhestr gyda £600 miliwn.

Mae’r Prif Weinidog Rishi Sunak a’i wraig Akshata Murty yn rhif 275 ar y rhestr ac yn werth £529 miliwn.

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.