Protest dros ddyfodol stadiwm Nantporth gan gefnogwyr CPD Bangor 1876

Mae cefnogwyr CPD Bangor 1876 wedi cynnal protest i fynegi eu dymuniad i chwarae yn stadiwm Nantporth.
Ar hyn o bryd, mae’r clwb yn anelu i godi o gynghrair Aran Gogledd Orllewin i’r Cymru North, sef ail haen pêl-droed yng Nghymru.
Ond os ydyn nhw’n sicrhau dyrchafiad, bydd rhaid iddyn nhw symud o’u cartref yn Nhreborth er mwyn chwarae mewn stadiwm sydd yn cwrdd â gofynion trwydded y gynghrair.
Mae’r clwb yn awyddus i symud i Stadiwm Nantporth, hen gartref CPD Dinas Bangor, ond mae pryderon ynglŷn â dyfodol y safle.
Mae'r cwmni sydd yn rhedeg safle Nantporth, cwmni cymunedol Nantporth CIC, yn ei rentu gan Gyngor Dinas Bangor, ac mae'r cyngor nawr yn bygwth cymryd camau cyfreithiol yn sgil dyledion hanesyddol o dros £60,000.
Oherwydd yr anghydfod, mae prif noddwyr Bangor 1876 wedi bygwth tynnu'u cefnogaeth yn ôl os bydd y clwb yn symud yma heb i'r sefyllfa newid.
Daeth grŵp o gefnogwyr Bangor at ei gilydd ddydd Sadwrn i roi pwysau ar Nantporth CIC i ildio rheolaeth o’r stadiwm.
'Anghydfod parhaus'
Mewn datganiad, dywedodd Cadeirydd y clwb, Glynne Roberts: “Mae’r cyffro y dyliwn ni deimlo gyda’r posibilrwydd o chwarae pêl-droed Haen 2 y tymor nesaf wedi ei leddfu gan yr anghydfod parhaus ynghylch rhedeg Stadiwm Nantporth.
“Yn y pen draw, mae angen inni aros am ganlyniad yr anghydfod rhwng Cyngor y Ddinas a CIC Nantporth.
"Y cyfan rydyn ni'n ei ofyn yw’r gallu i chwarae yn Nantporth y tymor nesaf.
“Nid yw’n fwriad cymryd y stadiwm drosodd, dim ond i fod yn denantiaid, a gweithio i wneud Nantporth yn gartref haeddiannol i bêl-droed hŷn yn y ddinas.
“Fy ngweledigaeth yw i’r stadiwm fod yn gartref i dimau hŷn y dynion a’r merched, cartref y “teulu 1876”.
Mae Cyngor Dinas Bangor yn dweud na fyddent yn gwneud sylw pellach ar hyn o bryd.
Yn ôl Nantporth CIC, maen nhw'n gobeithio trafod y sefyllfa efo'r cyngor yn yr wythnosau nesaf.
Bydd Bangor 1876 yn herio CPD Cefn Albion o gynghrair Adran Gogledd Ddwyrain ddydd Sadwrn nesaf, gyda’r enillydd yn ennill dyrchafiad i’r Cymru North.