Ansicrwydd dros ddyfodol cyfleusterau pêl-droed Nantporth ym Mangor
Ansicrwydd dros ddyfodol cyfleusterau pêl-droed Nantporth ym Mangor
Mae ansicrwydd dros ddyfodol pêl-droed ym Mangor yn dilyn anghydfod dros gyfleusterau Stadiwm Nantporth.
Tan 2022, roedd Nantporth yn gartref i Glwb Pêl-droed Dinas Bangor, tra bod degau o dimau lleol yn defnyddio’r cae 3G ar y safle ar gyfer hyfforddi a gemau.
Ers i’r clwb chwalu, mae grŵp Nantporth CIC wedi cymryd meddiant o les y stadiwm gan y perchnogion, Cyngor Dinas Bangor.
Ond mae Nantporth CIC wedi dweud wrth Newyddion S4C eu bod nhw bellach yn wynebu gorfod talu dyled o £63,000 i'r cyngor sy’n gysylltiedig â’r les.
Mae’r ddyled hanesyddol y dyddio o gyfnod cyn y gwaneth Nantporth CIC gymryd meddiant o’r les, ond maen nhw wedi derbyn gorchymyn cyfreithiol gan y cyngor i’w ad-dalu cyn diwedd y mis.
Mae’r cyngor yn dweud fod yr anghydfod yn ymwneud â “thorri telerau’r les yn barhaus”.
'Dim Sicrwydd
Dywedodd Dilwyn Jones, Cyfarwyddwr Nantporth CIC: “Does dim sicrwydd i’r clybiau yma rŵan.
“Gan gofio bod tua 2,000 o bobl a’r holl dimau yn dod mewn trwy’r giatiau pob wythnos, mae’r cyngor wedi rhoi eu dwylo mewn i nyth cacwn.
“Maen nhw’n dweud eu bod yn gwarchod arian cyhoeddus, ond os maen nhw’n cymryd meddiant o’r safle, byddan nhw’n colli £63,000 yn syth.
“Ond os arhoswn ni ar y safle, fe wnawn ni dalu’r ddyled yn ôl yn raddol. Mae’r holl anghydfod yma dros y ddyled sydd wedi’i etifeddu gan CPD Dinas Bangor.
“Cwmni cymunedol ydan ni sydd yn cael ei redeg gan wirfoddolwyr. Mae ‘na chwech ohonom wedi bod yn sgwrio lloriau Nantporth dros y saith mis diwethaf.
“Dim ond saith mis yn ôl fe wnaethon ni gymryd y les, sydd ddim yn ddigon o amser i ddod o hyd i fwy ‘na £60,000. ‘Da ni wedi cynnig cynllun ad-daliad, ond maen nhw wedi gwrthod.
“Fy nghais diwethaf oedd iddyn nhw gymryd y gorchymyn i feddiannu’r safle oddi ar y bwrdd, er mwyn i glybiau cael trwyddedau i chwarae'r tymor nesaf.
“Bydda hynny’n rhoi amser i bawb ddod o gwmpas y bwrdd am drafodaethau.”
Mae clybiau CPD Merched Bangor 1876, Arriva Bangor a Phrifysgol Bangor yn defnyddio cae Nantporth ar gyfer gemau'r tymor hwn.
Mae sawl clwb hefyd wedi mynegi bwriad i chwarae ar y maes y tymor nesaf.
Ond gyda dyddiad cau am geisiadau i Gymdeithas Bêl-droed Cymru am drwydded i chwarae'r tymor nesaf ar ddiwedd y mis, mae’r ansicrwydd dros ddyfodol y maes yn destun pryder i’r clybiau yno, os nad oes cartref iddyn nhw yn Nantporth y tymor nesaf.
Apêl codi arian
Mae CPD Merched Bangor 1876 wedi lansio apêl i godi arian i dalu’r ddyled ar dudalen GoFundMe, gyda dros £800 wedi ei gasglu hyd yma.
Dywedodd Ffion Williams Thomas, Trysorydd CPD Merched Bangor 1876: “Codi ymwybyddiaeth ydi’r rheswm tu ôl i’r apêl.
“’Da ni ddim yn mynd i gael y holl bres, ond da ni eisiau i’r stori ddod allan trwy ein clwb ni er mwyn trio cadw Nantporth yn fyw i’r gymuned gyfan, plant ac oedolion o gwmpas Bangor.
“Mae’n tîm Merched ni ar fin curo’r gynghrair, ond allan nhw ddim mynd i fyny i’r gynghrair nesaf heb gytundeb i chwarae ar y cae tymor nesaf.
“Mae’r tîm wedi gweithio'n mor galed i gael lle maen nhw ac os maen nhw’n curo dydd Sul, mae 'na siawns nawn nhw wedi ennill y gynghrair. Ond heb gartref blwyddyn nesaf, byddan nhw methu symud i’r tier nesaf.
“Dwi ddim yn gwybod os fysan ni’n bodoli i fod yn onest, achos does 'na le’m byd arall i ni fedru mynd i ymarfer bob wythnos. Mae bob man yn llawn.
“Mae gennyf i ddwy ferch – mae Elin yn chwarae i’r tîm dan 12 ac mae Megan yn chwarae i’r tîm dan 11, ond mae Megan yn awtistig a phêl-droed ydi popeth iddi hi.
“Fel teulu, dwi ddim yn gwybod be ‘da ni’n mynd i wneud os ‘di Megan methu chwarae pêl-droed, mae hi’n byw pêl-droed.”
Wythnos diwethaf, fe gyhoeddodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru mai Nantporth fydd y lleoliad ar gyfer rownd terfynol Cwpan Cymru JD rhwng Y Seintiau Newydd ac Y Bala fis nesaf.
Ymateb y Cyngor
Dywedodd lefarydd ar ran Cyngor Dinas Bangor: “Mae Cyngor Dinas Bangor yn cadarnhau bod anghydfod yn parhau rhwng y Cyngor, fel landlord Stadiwm Nantporth, a Nantporth CIC, lesddeiliad y stadiwm.
“Mae’r anghydfod yn ymwneud â thorri telerau’r les yn barhaus.
“Mae gan Gyngor y Ddinas gyfrifoldeb statudol i reoli cyllid cyhoeddus hyd eithaf ei allu a gweithredu er budd trethdalwyr Bangor.
“Ni fydd Cyngor y Ddinas yn gwneud mwy o sylwadau ar fanylion y mater hwn gan nad yw’n dymuno dylanwadu ar unrhyw gamau cyfreithiol posibl.
“Fodd bynnag, hoffai’r Cyngor sicrhau dinasyddion Bangor ei fod wedi cymryd y cam hwn er mwyn sicrhau dyfodol hirdymor sefydlog i’r stadiwm, a fydd yn cefnogi’r timau a’r clybiau sy’n defnyddio stadiwm dinas Bangor.”
Dywedodd lefarydd ar ran CPD Dinas Bangor: "Mae hwn yn fater rhwng Nantporth CIC a Chyngor Dinas Bangor. Y llynedd, fe wnaethon ni dderbyn cynnig gan Nantporth CIC i ganslo ein dyled iddyn nhw yn llawn, gyda’r safle yn cael ei ddychwelyd iddyn nhw, dan eu rheolaeth nhw.
"Mae cytundeb wedi ei harwyddo, sydd yn golygu nad oes gan CPD Dinas Bangor unrhyw ddyledion yn ymwneud â llogi stadiwm."