Newyddion S4C

Yr UDA yn rhoi caniatâd i gynghreiriaid roi awyrennau i Wcráin

20/05/2023
F-16 Fighter Jet

Mae’r UDA wedi caniatáu i wledydd y gorllewin gyflenwi awyrennau milwrol i Wcráin gan gynnwys rhai F-16 sy’n cael eu cynhyrchu yn yr UDA.

Dywedodd ymgynghorydd diogelwch cenedlaethol yr UDA Jake Sullivan fod Arlywydd Biden wedi “rhoi gwybod i arweinyddion eraill y G7” o’r penderfyniad yn yr uwch gynhadledd yn Siapan.

Fe fydd lluoedd yr UDA hefyd yn hyfforddi peilotiaid Wcráin ar sut i ddefnyddio’r awyrennau.

Dywedodd Arlywydd Volodymyr Zelensky ei fod yn “benderfyniad hanesyddol”.

Yn gyfreithlon, nid oes gan wledydd yr hawl i ail-werthu neu ail-allforio cynnyrch milwrol Americanaidd os nad yw’r UDA yn caniatáu hynny.

Daw hyn wrth i Arlywydd Zelensky gyrraedd yr uwch gynhadledd yn Hiroshima ddydd Sadwrn.

Dywedodd fe fydd “heddwch yn dod yn agosach”.

Dywedodd y Prif Weinidog Rishi Sunak ei fod “yn croesawu’r penderfyniad” gan yr UDA.

Mae disgwyl i Mr Zelensky annerch yr uwch gynhadledd dydd Sul.

Dywedodd is weinidog tramor Rwsia Alexander Grushko fod gwledydd y gorllewin yn cymryd “risg enfawr” wrth gyflenwi awyrennau milwrol i Wcráin.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.