Newyddion S4C

Y Cymro sy’n gofalu am ddiogelwch Bear Grylls

Y Cymro sy’n gofalu am ddiogelwch Bear Grylls

NS4C 21/05/2023

Mae hyd yn oed yr anturiaethwr Bear Grylls angen rhywun i brofi dyfroedd gwylltion, clogwyni anghyfarwydd, a gosod rhaffau diogelwch er mwyn iddo gael serennu ar y teledu.

Cyn i Bear gael ei ollwng o’i hofrennydd i ffilmio mewn lleoliad anghysbell, bydd tîm arbenigol bychan wedi teithio yno yn barod i gynnal arolwg manwl a sicrhau diogelwch y safle.

Ac un o’r bobl sydd yn gyfrifol am ei ddiogelwch wrth ffilmio yw’r Cymro Dilwyn Sanderson-Jones.

Yn wreiddiol o Benmorfa ond bellach yn byw yn Waunfawr, mae Mr Sanderson-Jones yn gyn-swyddog gyda'r Awyrlu, yn ddringwr sydd â degawdau o brofiad, mynyddwr gaeaf, sgipar ar gychod rib a hyfforddwr canŵio.

Yn dad i bump o blant, mae hefyd yn gyfarwydd i wylwyr S4C ar ôl iddo serennu fel un o gyd-gyflwynwyr y gyfres antur Ar y Dibyn.

Ond ei waith o ddydd i ddydd fel cyd-berchennog cwmni rhaffau arbenigol BodAcc ym Mhenrhyndeudraeth sydd wedi cyflwyno’r cyfleoedd iddo weithio ar draws y byd fel arbenigwr diogelwch ar gynyrchiadau teledu.

Ac mae un o’r cleientiaid mwyaf adnabyddus y mae'n gweithio iddo yn rhywun y mae hefyd yn ei gyfrif fel ffrind bellach – yr anturiaethwr Bear Grylls.

‘Ffodus iawn’

“Oeddwn i’n ffodus iawn i gyflwyno Ar y Dibyn am ddwy gyfres,” meddai wrth Newyddion S4C.

“Tra oeddwn ni’n ffilmio’r gyfres gyntaf yn Llanystumdwy, fe wnaeth right-hand man Bear Grylls ffonio lle oeddan ni’n gweithio yn deud, ‘da ni’n ffilmio yng Ngogledd Cymru, ‘da ni angen rhywun sy’n gwybod rhywbeth am fynyddoedd, awyr agored ac ychydig bach o deledu – ti’n nabod rhywun?’

Image
Dilwyn a'i gyd-gyflwynydd ar gyfres Ar y Dibyn, Lowri Morgan.

“Dyma’r boi yn sbïo allan drwy’r ffenest a dyna lle oeddwn i, a dyma fo’n deud ‘yndw, dw i’n sbïo arno fo rŵan’. 

“Mi oedd huna yn 2016 a dwi wedi cael mwy o gyfrifoldebau ers hynny. Dwi rŵan yn edrych ar ôl tîm diogelwch pan da ni’n mynd dros y byd i gyd yn ffilmio rhaglenni antur hefo fo.”

Mae’r swydd wedi mynd a Dilwyn o Wyoming yn yr UDA i Costa Rica, Canada, Yr Alban a Chymru, i sicrhau fod pob cam yn cael eu cymryd cyn i’r camerâu gychwyn recordio.

Mae wedi gweithio ar sawl cyfres deledu ryngwladol, megis Running Wild, Bear’s Mission With, Bear Grylls Survival School, a A League of Their Own, gan weithio gydag enwau mawr fel Ashton Kutcher, Anthony Joshua, Florence Pugh a Jonny Wilkinson.

‘Trystio ni 100%’

“Dwi di bod yn lwcus iawn i gael trafeilio hyd a lled y byd efo Bear yn ffilmio,” meddai.

“Yn neud y swydd diogelwch, fel arfer does ‘na neb ‘di neud be ti ar fin neud, ac mae Bear yn mynd i wneud o wedyn, yn amlwg.

“Esiampl fysa, neidio mewn i bwll o ddŵr. Ti’m yn gwybod pa mor ddyfn ydy’r dŵr felly mae ‘na lot o waith o’r rhan probio i ffindio’r gwaelod, snorclo i neud yn siŵr fod o’n glir, ond fedri di ddim bod yn 100% nes bo chdi’n neidio i mewn, ac mae’r beryg bob tro yn gefn dy feddwl.

“Ond pan mae o’n neud, neith o ddim hyd yn oed stopio a meddwl, mae o just yn neud o. Mae o’n gwybod fod ni ‘di neud o’n barod ac yn trystio ni 100%, felly mae’n neud o.

“Mae 'na elfen o fod yn beryg yn fan ‘na, rhyw fath o calculated risk. Os wyt ti’n cael gwared ar rywfaint o’r peryg ‘na, ti ‘di neud dy swydd di yn iawn. Mae ‘na ‘perceived risk’ ac mae ‘na ‘actual risk’. Perceived risk ydi pan mae rhywun yn gweld o’n hongian o’r hofrennydd ar y teledu, miloedd o droedfeddi yn yr awyr, mae hwnna yn iawn.

“Ond mae beth sy’n dal o yn ei le wedi cael ei brofi, da ni di neud o’n barod, ac yn gwybod fod o’n gweithio, so mae’r elfen risk actual yn lot llai ‘na be mae pobl yn weld.”

‘Ffrind’

Dod adref ydy hoff ran o unrhyw daith hirfaith i Dilwyn, ac fel perchennog Ynys Tudwal Fawr ger Abersoch, mae Bear yn rhannu'r un cariad tuag at Gymru.

Ac ar ôl gweithio’n agos gyda’i gilydd ers saith mlynedd, mae’r berthynas rhwng y ddau yn un cyfeillgar dros ben erbyn heddiw, meddai.

“Pan da ni’n ffilmio, dim ond ryw 12 ohonon ni sy’n mynd allan, ac mae’r cylch yn un bach, personol iawn.

“Da chi’n gorfod rhoi eich trust a ffydd yn eich gilydd ac mae’r berthynas yn tyfu’n gryfach.

“Y peth mwya’ diweddar sy’n aros efo fi ydy ar ôl i fi a fy mrawd golli fy mam diwrnod Dolig flwyddyn ddiwethaf allan o nunlle, ag mi oedd o’n sioc fawr i’r ddau ohonon ni. Colli mam ydy colli mam.

“Oeddwn i’n deud hyn i un o fy ffrindiau, sydd yn ffrindiau mawr efo Bear hefyd, ac mi yrrodd Bear neges bersonol i fi, fatha ffrind, yn cydymdeimlo.

“I fi, oedd hynny’n dangos mai ffrind oedd o, dim just rhywun dwi’n gweithio efo.

“Mae’r dyn yn Chief Scout, mae ganddo fo filiynau o bobl sy’n dilyn o ar y cyfryngau, ond i gymryd yr amser i yrru neges bersonol i fi, mae hynny’n deud lot amdano fo.

“Mae ganddo fo bob tro amser. Gollodd o ei dad yn eitha' ifanc yn ei fywyd, a gan bo fi’n hŷn na fo, weithia da ni’n cael sgwrs fatha brawd mawr a brawd bach.

“Fatha, neith o ofyn pethau a fydda i’n eitha’ onest efo fo, does 'na ddim airs and graces. A dwi’n meddwl fod o’n gwerthfawrogi hynny.”

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.