Newyddion S4C

Llun gan Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru

Cludo pedwar o bobol i’r ysbyty yn dilyn tân yn Wrecsam

NS4C 19/05/2023

Cafodd pedwar o bobol eu cludo i’r ysbyty yn dilyn tân mewn tŷ yn Wrecsam nos Iau.

Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru eu bod nhw wedi derbyn galwad i ardal Y Wern tua 22:00.

Roedd y difrod pennaf ar lawr cyntaf yr adeilad, gydag ystafell wely wedi ei dinistrio gan y fflamau.

Maen nhw’n parhau i ymchwilio i beth achosodd y tân.

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.