Newyddion S4C

Wythnos Ymwybyddiaeth Coeliag: 'Rhyddhad' wrth dderbyn diagnosis

19/05/2023

Wythnos Ymwybyddiaeth Coeliag: 'Rhyddhad' wrth dderbyn diagnosis

Ar Wythnos Ymwybyddiaeth Coeliag mae un sy’n byw gyda’r cyflwr wedi dweud ei bod hi'n awyddus i dynnu sylw at symptomau nad yw'r rhan fwyaf o bobol yn ymwybodol ohonyn nhw.

Fe gafodd Abi Moore, 34 oed o Faesteg ym Mhen-y-bont, ddiagnosis o glefyd coeliag ddegawd yn ôl ac ers hynny mae byw ei bywyd wedi bod gymaint yn haws, meddai. 

Ond gyda hyd at 20,000 o bobl yn byw yng Nghymru heb ddiagnosis, mae Abi’n benderfynol o rannu ei phrofiad er mwyn codi ymwybyddiaeth bellach o’r gwahanol symptomau gellir eu profi o ganlyniad i’r clefyd. 

Mae clefyd coeliag yn gyflwr awto-imiwn sydd fel arfer yn achosi problemau i’r perfedd o ganlyniad i fwyta glwten.

Ond wedi iddi ddioddef o osteopenia ar ei hesgyrn, anemia difrifol a phroblemau gyda’i mislif, mae Abi yn galw am drafodaeth ehangach ar sut gall y clefyd effeithio bywydau.

"Oeddwn i'n teimlo rhyddhad ar ôl y diagnosis coeliag," meddai.

"Er ar y dechrau roedd e'n eitha intimidating, oedd e'n weddol hawdd i osgoi glwten - dyna'r triniaeth.

“Pan o’n i’n 27 ‘nes i ffeindio allan bod osteopenia gyda fi.

“Ar ôl diagnosis coeliag, ti’n cael check-up a scans DEXA sy’n edrych ar ddwysedd yr esgyrn, so mae osteopenia yn lle mae’r dwysedd yn is na ddyle fe fod ac o ganlyniad, dwi’n cael tabledi calsiwm bob dydd.

“Hefyd mae problemau ffrwythlondeb yn gallu bod yn gysylltiedig hefyd. I fi, ‘odd fy mislif yn rili afreolaidd pan o’n i’n ifanc.

"Weithiau ‘odd e’n jyst stopio am fel tri neu pedwar mis ac mae hwnna’n arwydd rili ‘odd rhywbeth yn mynd ymlaen,” meddai.

‘Angen codi ymwybyddiaeth’

Nawr, mae Abi’n annog i bobl sy’n profi symptomau tebyg i ymweld â’u meddyg. 

“Byddai’n annog i unrhyw un os mae’r stwff ‘da ni’n trafod yn swnio’n cyfarwydd i fynd i’r meddyg a gofyn am y prawf gwaed," meddai.

“Mae angen codi ymwybyddiaeth o’r symptomau a’r clefyd, os mae’n helpu rhywun i sylweddoli bod y symptomau’n swnio’n cyfarwydd a chymryd y cam hwnna i gael y diagnosis, bydd e’n help mawr ac yn wella iechyd y person yna.”

Er i glefyd coeliag effeithio ar 1 o bob 100 o bobl, yn ôl Coeliac UK gellir cymryd hyd at 13 o flynyddoedd i dderbyn diagnosis meddygol a hynny’n rhannol o ganlyniad i ddiffyg ymwybyddiaeth. 

Dywedodd Hilary Croft, Prif Swyddog Gweithredol Coeliac UK: “Rydym wedi gweld rhai pobl yn cael trafferth gyda symptomau clefyd coeliag ers degawdau, heb fod yn ymwybodol bod yna driniaeth, diet heb glwten a ragnodwyd yn feddygol. 

“Fodd bynnag, mae angen cynyddu ymwybyddiaeth o hyd, gyda mwy na chwarter (26%) o boblogaeth y DU yn adrodd nad ydynt erioed wedi clywed am glefyd coeliag.

“Mae hyn yn cynyddu i dros 75% ar gyfer y symptomau llai adnabyddus, er eu bod yn ddangosyddion allweddol nad yw rhywbeth yn hollol iawn ac y gall fod gan y person clefyd coeliag heb ddiagnosis.” 

Mae Coeliac UK yn annog pobl sy’n profi symptomau i beidio torri glwten allan o’u diet cyn derbyn prawf gwaed.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.