Arestio dyn fel rhan o ymchwiliad i wrthdrawiad angheuol yn Llaneirwg

Mae dyn 32 oed wedi’i arestio fel rhan o ymchwiliad i wrthdrawiad angheuol a ddigwyddodd ar yr A48 yn ardal Llaneirwg, Caerdydd, ar ddydd Sadwrn, 4 Mawrth.
Mae’r dyn wedi’i arestio ar amheuaeth o yrru’n beryglus a gyrru tra'r oedd wedi ei wahardd, ar yr M4 tua 22:00 ar 3 Mawrth. Mae wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth tra bod ymholiadau'r heddlu'n parhau.
Nid yw’r troseddau hyn yn gysylltiedig â’r gwrthdrawiad angheuol a ddigwyddodd am 02.03 ar ddydd Sadwrn 4 Mawrth, a arweiniodd at farwolaethau’r gyrrwr Rafel Jeanne a’r teithwyr Darcy Ross ac Eve Smith.
Mae eu teuluoedd wedi cael gwybod am y datblygiad diweddaraf ac yn parhau i gael eu cefnogi gan swyddogion arbennig.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Matt Davies o Heddlu De Cymru: “Cafodd yr arestiad ei wneud o ganlyniad i dystiolaeth a nodwyd gan swyddogion oedd yn ymchwilio i’r gwrthdrawiad angheuol ac yn ymwneud â’r un cerbyd.
“Mae ein hymchwiliad manwl yn parhau a fydd yn ein galluogi i ddarparu’r ffeithiau o’r hyn a ddigwyddodd yn ystod oriau mân dydd Sadwrn 4 Mawrth.
“Mae ein meddyliau’n parhau i fod gyda’r teuluoedd a phawb gafodd eu heffeithio gan y digwyddiad trasig hwn.”