Newyddion S4C

Mab Ryan Giggs yn arwyddo i Sheffield United

17/05/2023
zach giggs

Mae Sheffield United wedi arwyddo Zach Giggs, sef mab Ryan Giggs.

Mae Zach, sydd yn 16 oed, wedi arwyddo cytundeb ieuenctid gyda'r clwb sydd yn Uwch Gynghrair Lloegr wrth iddo geisio bod yn rhan o garfan y tîm yn y gynghrair y tymor nesaf. 

Bydd yn gadael academi Manchester United ar ôl pedair blynedd yno, ac yn symud i Bramall Lane ar ôl pasio cyfnod prawf gyda'r clwb. 

Cafodd Sheffield United eu dyrchafu i'r Uwch Gynghrair y tymor hwn. 

Mae Zach yn chwarae yn safle'r cefnwr chwith ond mae hefyd wedi chwarae mewn safleoedd eraill yn ystod ei gyfnod gyda'r academi yn Old Trafford. 

Bydd yn gobeithio gwireddu'r un llwyddiant â'i dad, Ryan Giggs, a oedd yn un o chwaraewyr mwyaf llwyddiannus y gynghrair. 

Er bod Zach yn gymwys i chwarae dros Gymru a Lloegr ar lefel ryngwladol, mae wedi cynrychioli Cymru hyd yn hyn. 

Llun: Sportsfile

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.