Cyhuddo dyn o lofruddio mam i bedwar o blant a dyn arall

Mae dyn wedi cael ei gyhuddo o lofruddio mam i bedwar o blant a dyn arall yn Huddersfield ddydd Llun.
Bydd Marcus Osbourne, 34, yn ymddangos o flaen Llys Ynadon Leeds ddydd Mercher wedi ei gyhuddo o lofruddio Katie Higton, 27, a Steven Harnett, 25.
Cafodd Ms Higton a Mr Harnett eu darganfod yn farw yng nghartref Ms Higton yn Huddersfield ddydd Llun.
Dywedodd Heddlu Gorllewin Sir Efrog fod y dyn hefyd wedi ei gyhuddo o ymosod ar ddynes arall yn y ty yr un noson.
Cafodd yr heddlu eu galw i'r cyfeiriad am 09:53 fore Llun wedi i barafeddygon ddarganfod dau o bobl gydag anafiadau difrifol.
Fe wnaeth yr heddlu gadarnhau fod y ddau wedi marw yn y fan a'r lle.
Dywedodd Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) eu bod nhw'n asesu y sefyllfa.
Dywedodd llefarydd ar eu rhan "eu bod wedi derbyn cyfeiriad gorfodol gan Heddlu Gorllewin Sir Efrog yn gysylltiedig â llofruddiaeth dau berson yn Huddersfield.
"Mae hyn yn sgil y ffaith bod swyddogion wedi bod mewn cyswllt gyda'r ddau fu farw a dyn sydd bellach wedi ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth, yn y dyddiau cyn y digwyddiad ofnadwy yma."
Ddydd Mawrth, fe wnaeth teulu Ms Higton roi teyrnged iddi, gan ddweud mai hi oedd y "fam orau" a bod y teulu "wedi eu llorio".