Newyddion S4C

Tymheredd byd-eang 'i gynyddu dros y trothwy tyngedfennol' o 1.5°C erbyn 2027

Haul- PA

Mae gwyddonwyr yn debygol o gofnodi cynnydd yn y tymheredd cyfartalog byd-eang o 1.5°C dros y pum mlynedd nesaf, yn ôl Sefydliad Meteorolegol y Byd.

Dywed y Sefydliad bod siawns o 66% y bydd y tymheredd hwn yn cael ei gofnodi o leiaf unwaith rhwng nawr a 2027 – a dyma fyddai'r tro cyntaf i hynny digwydd erioed.

Dywedodd gwyddonwyr hefyd fod siawns o 98% y byddai'r flwyddyn boethaf a gofnodwyd erioed yn cael ei nodi yn ystod y cyfnod hwn.

Byddai cyrraedd y trothwy tyngedfennol yn golygu fod y byd 1.5C yn gynhesach na'r sefyllfa yn ail hanner y 19eg Ganrif, cyn y chwyldro diwydiannol a dechrau effaith allyriadau tanwydd ffosil.

Mae'r gwyddonwyr hefyd yn pwysleisio y gall y tymheredd ostwng eto o dan y trothwy 1.5C yn y dyfodol.

Dywedodd Dr Leon Hermanson o'r Swyddfa Dywydd, un o’r arbenigwyr a arweiniodd yr adroddiad: “Nid ydym erioed wedi mynd yn uwch na 1.5°C. Y record bresennol yw 1.28°C.

“Mae'n debygol iawn ein bod yn mynd i ragori ar hynny, efallai y byddwn ni hyd yn oed yn cyrraedd 1.5°C - mae'n fwy tebygol na pheidio."

Ychwanegodd fod y record yn debygol o ddigwydd o ganlyniad i nwyon tŷ gwydr a digwyddiad naturiol El Nino, sef y gwres yn nwyrain y Môr Tawel sy'n effeithio ar lawiad a thymheredd yn fyd-eang.

Difrod

Mae'r Panel Rhynglywodraethol ar Newid Hinsawdd wedi dweud y bydd y difrod i bobl a bywyd gwyllt yn cynyddu wrth i'r byd agosáu at gynhesu byd-eang.

Ychwanegodd fod y byd ar hyn o bryd ar y trywydd i gynhesu tu hwnt i 2°C erbyn diwedd y ganrif , er y polisïau lleihau allyriadau sydd ar waith ar hyn o bryd.

Dywedodd prif weithredwr Sefydliad Meteorolegol y Byd, Yr Athro Petteri Taalas: “Nid yw’r adroddiad hwn yn golygu y byddwn yn parhau i fod yn uwch na’r lefel 1.5°C cafodd ei nodi yng Nghytundeb Paris, sy’n cyfeirio at gynhesu hirdymor dros nifer o flynyddoedd.

“Fodd bynnag, mae Sefydliad Meteorolegol y Byd yn canu'r larwm sy'n rhybuddio y byddwn yn torri’r lefel 1.5°C dros dro yn amlach.”

Llun: PA

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.