Newyddion S4C

Heddlu

Carcharu dyn o Sir Gâr am ymosod ar ei bartner ar ôl cael ei ryddhau o'r carchar

NS4C 13/05/2023

Mae dyn ymosododd ar ei bartner ychydig wythnosau ar ôl cael ei ryddhau o’r carchar am yr un drosedd wedi cael ei garcharu eto. 

Fe wnaeth Anthony Marshall, 29, o Bencader ymosod ar ei bartner wrth ddrws siop ar ddydd Sadwrn 29 Ebrill – tair wythnos ar ôl iddo gael ei ryddhau o’r carchar am ymosodiad blaenorol ar yr un dioddefwr.

Roedd y dioddefwr yn betrusgar i wneud datganiad i'r heddlu yn erbyn Marshall gan fod ganddi ei ofn.

Mewn datganiad, dywedodd Heddlu Dyfed-Powys: "Gan gydnabod y risg iddi, dechreuodd ein swyddogion erlyniad ar sail tystiolaeth, a oedd yn golygu y gellid ymchwilio i’r digwyddiad heb fod angen holi’r dioddefwr na mynychu’r llys.

"Roedd lluniau teledu cylch cyfyng yn dangos yr ymosodiad yn glir, ynghyd â gwybodaeth a wnaed gan y dioddefwr pan ffoniodd 999 ac wrth siarad â swyddogion.

"Cyflwynwyd tystiolaeth glir o ofn y dioddefwr i Wasanaeth Erlyn y Goron, gan amlygu ei hofn o Marshall, a gyhuddwyd o ymosod trwy guro.

"Ymddangosodd yn Llys Ynadon Hwlffordd ar ddydd Mercher, Mai 3 – dim ond pedwar diwrnod ar ôl y drosedd – lle cafodd ei garcharu am 12 wythnos."

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.