Newyddion S4C

Y Cymro sy’n dawnsio yn ffeinal yr Eurovision

13/05/2023

Y Cymro sy’n dawnsio yn ffeinal yr Eurovision

Ers wythnos mae artistiaid o Ewrop a thu hwnt wedi bod yn cystadlu yn yr Eurovision, un o gystadlaethau cerddorol mwyaf y byd.

Wrth i'r trefnwyr a'r perfformwyr yn Lerpwl wneud paratoadau munud olaf cyn y ffeinal nos Sadwrn, mae un Cymro yn eu plith.

Bydd Ioan Williams sy’n wreiddiol o Gaerdydd yn dawnsio yn ystod yr egwyl yn yr Eurovison nos Sadwrn.

“Fi’n dawnsio yn yr interval yn y final nos Sadwrn, felly dwi wedi bod yn ymarfer i hwnna a byddai’n ymarfer trwy dydd,” meddai’r myfyriwr Prifysgol.

“Dwi ddim yn cael dweud lot am y ddawns, ond ma fe yn lot o hwyl a lot o joio a typical Eurovision.

“Mae’r profiad wedi bod yn anghygoel achos dwi wedi bod yn gwylio Eurovision ers bo’ fi’n tua wyth oed, oedd ‘da ni score boards a bob dim yn y tŷ bob blwyddyn.

“Ond nawr mae bod yn rhan o honno fe jyst yn anghygoel a mae’n brofiad nai byth anghofio.”

'Ffantastic'

Mae Ioan Williams yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Perfformio Lerpwl, LIPA ac mae’n dweud fod bwrwlm yn y ddinas.

“Yn enwedig yn y docial ble mae’r Eurovillage. Mae’r ciwiau yndechrau am 18:00 i sioeau sy’n dechrau am 20:00. Mae pobl mewn lliwiau gwahanol ac yn barod am y Eurovision.

“Fi’n clywed gymaint o ieithoedd gwahanol o gwmpas Lerpwl ar hyn o bryd a chi’n gallu gweld pa wledydd mae pobl yn cefnogi. Mae ganddyn nhw eu baneri a’u sgarffiau a phopeth. Ma’ rili neis gweld hynny.

“Ma fe bach yn nyts rili.”

Mae Ioan wedi bod yn paratoi ar gyfer yr Eurovison ers peth amser am ei fod yn gweithio fel ‘Stand in’.

“Ges i swydd i fod yn stand in ar gyfer yr Eurovison eleni felly nes i ddechrau ymarfer tua mis Ebrill, oedd rhaid fi ddysgu dawnsfeydd y gwledydd gwahanol a rhoi nhw ar y llwyfan cyn bod y gwledydd yn cyrraedd.

“Mae stand ins yn gwneud yn siŵr bod pethau fel y golau yn iawn cyn i’r gwledydd gyrraedd, felly mae’r gwelydd wedi gweld fideos o honna ni yn perfformio ar y llwyfan rhyw dair wythnsos yn nôl felly mae nhw’n gallu gweld os oes angen unrhyw newidiadau.

“Dwi di bod yn nghanol yr Eurovision ers tua mis rwan a mae o wedi bod yn ffantatsic.”

'Dathliad'

Nos Fawrth fe gaeth Ioan y cyfle i fod yn yr ystafell werdd lle roedd Alisha Dixon yn cyflwyno.

“Roedd nos Fawrth yn noson y semi finals a do’n i methu deud na i’r cyfle i gael bod yn y green room.”

Mae Ioan wedi mwynhau gweld gymaint o Gymry yn cefnogi’r Eurovison ac mae’n edrych ymlaen at fod yn rhan o’r cyfan nos Sadwrn.

“Fi meddwl ma’ fe yn ddathliad o wledydd gwahanol, caneuon gwahnaol, steils gwhanol o gerddoriaeth i gyd yn dod at ei gilydd ac yn cyfrau at y byd.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.