Newyddion S4C

Mwyafrif eisiau i Gymru reoli asedau Ystâd y Goron yn ôl pol piniwn

Charles a Camilla

Mae mwyafrif yn credu y dylai Llywodraeth Cymru reoli asedau Ystâd y Goron yng Nghymru, yn ôl pôl piniwn newydd.

Cafodd yr arolwg ei chynnal gan YouGov a’r cwestiwn ei gomisiynu gan y mudiad o blaid annibyniaeth, YesCymru.

Mae’n awgrymu fod 58% o blaid a 19% yn erbyn, gyda 23% ddim yn gwybod.

Heb gynnwys y rheini nad oedd yn gwybod, roedd 75% o blaid.

Dywedodd Prif Weithredwr YesCymru, Gwern Gwynfil, fod y canlyniadau yn arwyddocaol.

“Gadewch i ni gofio mai dim ond y llynedd y dywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar y pryd, Simon Hart, nad oedd ‘unrhyw awydd cyhoeddus o gwbl yng Nghymru i ddatganoli Ystad y Goron," meddai.

“Rwy’n hyderus y bydd unrhyw un, beth bynnag eu cefndir a beth bynnag eu gwleidyddiaeth, sy’n ystyried y ffeithiau a’r dadleuon yn feddwl agored, yn darbwyllo  eu hunain yn fuan fod Cymru a’r bobl sy’n byw yma yn mynd i fod ar ein ennill pan ddown yn genedl Annibynnol.”

‘Gohirio’

Tra'n Ysgrifennydd Cymru, dywedodd Simon Hart wrth Dŷ’r Cyffredin “nad oedd unrhyw awydd cyhoeddus o gwbl yng Nghymru i ddatganoli Ystâd y Goron”.

Ar y pryd, awgrymodd yr AS Ceidwadol, sydd bellach yn brif chwip y Ceidwadwyr, y byddai datganoli’r ystâd yn “darnio’r farchnad ac yn gohirio datblygiad pellach prosiectau allweddol” yn y sector ynni gwynt ar y môr."

Yr wythnos diwethaf fe alwodd Plaid Cymru am ddatganoli Ystâd y Goron.

Bryd hynny dywedodd llefarydd ar ran Ystâd y Goron: “Mae Ystâd y Goron yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru i reoli tir a gwely’r môr yn gynaliadwy dros yr hir dymor, ac i ddod â buddion economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol ehangach i Gymru.”

Cynhaliwyd yr ymchwil dros YesCymru gan YouGov rhwng 28 Ebrill a 3 Mai 2023. Maint y sampl oedd 1049.

Llun gan Hugo Burnand/Royal Household 2023/PA Wire.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.