Galw ar AS Ceidwadol i ymddiswyddo wedi iddo dorri polisi aflonyddu rhywiol

Galw ar AS Ceidwadol i ymddiswyddo wedi iddo dorri polisi aflonyddu rhywiol
Mae'r gwrthbleidiau wedi galw ar Aelod Seneddol Ceidwadol Delyn, Rob Roberts, i ymddiswyddo ar ôl i adroddiad gan banel annibynnol ddod i'r casgliad ei fod yn euog o gamymddwyn rhyw.
Mae Mr Roberts yn wynebu'r posibilrwydd o gael ei wahardd o Dŷ'r Cyffredin am chwe wythnos.
Yn ôl Liz Saville Roberts, Aelod Seneddol Plaid Cymru dros etholaeth Dwyfor Meirionydd, mae ymddygiad Mr Roberts yn "dwyn anfri" ar y swyddogaeth.
Dywedodd Ms Roberts A.S.: "Dwi'n meddwl mai'r peth anrhydeddus iddo wneud rŵan ydi sefyll i lawr. Mae o wedi cael ei benderfynu bod o wedi camymddwyn yn y rôl cyfrifol fel aelod seneddol. Mae o'n dwyn anfri ar y swydd honno. Fedrai o ddim aros yn ei swydd."
Dywedodd Nia Griffith, Llefarydd Materion Cymreig y Blaid Lafur yn San Steffan: "Beth dyle digwydd nawr ydi cyfle i bobl Delyn, i etholwyr Delyn, i gael y cyfle i wneud deiseb ac yn dweud dyn nhw ddim moyn bod e fel Aelod Seneddol."
Bydd Aelodau Seneddol yn cael pleidleisio ar argymhelliad y panel annibynnol i wahardd Mr Roberts am chwe wythnos.
Ond, dyw'r gosb ddim yn mynd digon pell, yn ôl cyn-aelod o Bwyllgor Safonau San Steffan.
Dywed Elfyn Llwyd y dylai gwaharddiad mor hir agor y drws ar isetholiad.
"Os da ni'n rhoid ein ffydd yn y pwyllgor annibynnol newydd fel y dylan ni, mae angen iddyn nhw gael yr holl ddulliau delio efo'r achos hwnnw, gan gynnwys y ddedfryd os mynnwch chi, bod yna etholiad adalwad.
"Unai da chi'n rhoid y grymoedd priodol i'r pwyllgor newydd, neu mae'r pwyllgor newydd yn gweithredu efo bron iawn 'sa chi'n deud, un fraich tu ôl 'i cefnau."
Prynhawn ddydd Mawrth, fe wnaeth Aelod Seneddol Delyn gydnabod ei fod wedi ymddwyn yn amhriodol ac ymddiheuro am dorri'r ymddiriedaeth rhyngddo â'r aelod o staff, ond y byddai yn parhau i wasanaethu ei etholwyr.
Llun: David Woolfall