Newyddion S4C

Plaid Cymru wedi cyfarfod i ystyried adroddiad beirniadol

09/05/2023
Adam Price

Mae grŵp Senedd Plaid Cymru wedi cyfarfod nos Fawrth yn sgil adroddiad beirniadol am ddiwylliant y blaid. 

Lai nag wythnos yn ôl, daeth adroddiad i'r casgliad bod angen ymateb ar fyrder i'r hyn gafodd ei alw yn ddiwylliant gwenwynig o fewn y blaid. 

Wedi i'r adroddiad hwnnw gael ei gyhoeddi, dywedodd Adam Price ei fod yn benderfynol o aros wrth y llyw er mwyn cyflwyno newidiadau.

Trefnodd Plaid Cymru gyfarfod yn y Senedd fore Mawrth i drafod yr adroddiad dan sylw.

Yna, fe wnaeth grŵp Senedd Plaid Cymru gyfarfod nos Fawrth ac roedd yr Aelod Seneddol ac arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan Liz Saville Roberts hefyd yn bresennol. 

Fe wnaeth y grŵp gyfarfod am tua awr a hanner ac ni wnaeth unrhyw aelod sylw wrth adael y cyfarfod.

Daw hyn yn dilyn canfyddiadau adolygiad a gafodd ei gynnal gan gyn-Aelod Cynulliad Plaid Cymru a'r cyn aelod o staff Nerys Evans o'r enw 'Prosiect Pawb'. 

Daeth yr adolygiad i'r casgliad fod Plaid Cymru wedi "methu â gweithredu agwedd dim goddefgarwch tuag at aflonyddu rhywiol" a bod angen ymdrin â nifer o faterion Adnoddau Dynol "ar fyrder". 

Fe wnaeth yr adroddiad hefyd ddod i'r casgliad fod y blaid wedi "methu â gweithredu agwedd dim goddefgarwch tuag at aflonyddu rhywiol". 

Yn ogystal, mae'n honni fod staff y blaid wedi gweld "gormod o achosion o ymddygiad gwael gan aelodau etholedig yn cael eu goddef", ac nad ydyn nhw'n gweld diben codi pryderon.

Wrth siarad ar Newyddion S4C o'r Senedd ym Mae Caerdydd nos Fawrth, dywedodd y gohebydd gwleidyddol Daniel Davies : "Roedd hwn yn gyfarfod rhwng Adam Price, aelodau Plaid Cymru yn y Senedd, a'r Aelod Seneddol, Liz Saville Roberts.

"Roedd yn gyfarfod am ryw awr a hanner, ac ar ôl iddyn nhw adael, doedd neb mo'yn gwneud sylw i'r newyddiadurwyr a oedd yn aros y tu allan. 

"Lai nag awr ers i'r cyfarfod yma orffen, mae'n ymddangos fod Adam Price yn parhau i fod yn ddiogel yn ei swydd. Yn sicr dy'n ni ddim wedi clywed am unrhyw un yn herio ei arweinyddiaeth oddi mewn i Blaid Cymru."  

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.