Eurovision: Criwiau awyren yn ymuno â hwyl yr ŵyl

Bydd rhai teithwyr sy'n hedfan i mewn ac allan o Lerpwl yn y dyddiau nesaf yn cael eu cyfarch ar yr awyren gan griwiau yn gwisgo dillad mwyaf cofiadwy cystadleuaeth yr Eurovision.
Yn ôl cwmni Easyjet, mae rhai o'u gweithwyr sy'n gwasanaethu o Faes Awyr Lerpwl wedi rhoi eu gwisg arferol o'r neilltu, gan wisgo fel rhai o gyn berfformwy y gystadleuaeth ganu sydd yn cael ei chynnal eleni yn y ddinas ar Lannau Mersi
Ymhlith y gwisgoedd sydd wedi eu dewis mae 'jympsiwt' las cantores Abba, Agnetha Faltskog ac esgidiau platfform o 1974, a sgertiau enwog dwy o gantorion y band Bucks Fizz a gafodd eu rhwygo a'u taflu o'r neilltu yn ystod eu perffomiad buddugol yn yr Eurovision yn 1981.
Dywedodd cyfarwyddwr gwaasanaethau Easyjet, Michael Brown fod y staff yn "caru'r Eurovision, yn ogystal â miliynau o'u cwsmeriaid ar hyd a lled Ewrop."
“Ni allai ein criw golli'r cyfle i ddathlu'r gystadleuaeth yn eu ffordd unigryw eu hunain.
“Mae gennym ni a dinas Lerpwl hanes hir, ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr iawn i groesawu teithwyr ar fwrdd ein hawyrennau, ac ymroi i ysbryd yr Eurovision."