Newyddion S4C

Rheolau newydd yn Lloegr yn galluogi fferyllwyr i roi presgripsiwn heb lofnod meddyg teulu

09/05/2023
presgripsiwn

Mae'n bosibl y bydd cleifion yn Lloegr yn gallu cael presgripsiwn a rhai meddyginiaethau atal cenhedlu yn uniongyrchol o fferyllfeydd i leddfu’r pwysau ar feddygon teulu.

Byddai triniaethau ar gyfer saith cyflwr cyffredin sy'n cynnwys dolur gwddf a dolur clust ar gael heb weld meddyg teulu, o dan gynlluniau sydd wedi eu cyhoeddi  gan Brif Weinidog y Deyrnas Unedig, Rishi Sunak.

Mewn ymateb i hynny, dywedodd Llywodraeth Cymru bod cynlluniau eisoes mewn lle ar gyfer fferyllfeydd yng Nghymru.

"Rydym wedi cyflwyno gwasanaeth rhagnodi annibynnol cenedlaethol ar gael i drin mân gyflyrau.
 
“Mae hyd at £12m ar gael i fferyllfeydd cymunedol i ddarparu gwasanaethau rhagnodi ac mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru wedi ymrwymo i ddarparu cymorth ariannol i 150 o fferyllwyr cymunedol i ymgymryd â chymwysterau rhagnodi.
 
“Bydd hyn yn galluogi fferyllfeydd yng Nghymru i ddarparu mwy o wasanaethau clinigol nag erioed o’r blaen ar gyfer mân anhwylderau – sy’n golygu y gall pobl gael eu trin yn gyflymach ac yn fwy cyfleus, gan leihau’r pwysau ar feddygon teulu.”

Mae Rishi Sunak yn dweud ei fod yn gobeithio y bydd y mesurau newydd yn Lloegr yn lleddfu'r pwysau ar feddygon teulu, trwy ryddhau 15 miliwn o apwyntiadau mewn meddygfeydd dros y ddwy flynedd nesaf.

Byddai fferyllwyr eu hunain yn gallu ysgrifennu’r presgripsiynau yn sgil y newid hwn. Mae gweinidogion yn Lloegr yn gobeithio y bydd y ddeddf yn cael ei chyflwyno’r gaeaf hwn, ar ôl cyfnod ymgynghori.

Yn ôl Rishi Sunak, mae e'n cyhoeddi'r mesurau hyn er mwyn ceisio sicrhau bod cleifion yn derbyn eu meddyginaeth "yn gyflym ac yn hawdd."

“Rwy’n bwrw ymlaen â chyflawni fy mhump o flaenoriaethau, a thrawsnewid gofal sylfaenol yw’r rhan nesaf o addewid y Llywodraeth hon i gwtogi rhestrau aros y GIG,” meddai.

“Rwy’n gwybod pa mor rhwystredig yw hi i fod yn ddibynnol ar eich meddygfa pan fo gwir angen apwyntiad arnoch chi neu aelod o’r teulu ar gyfer salwch cyffredin.

“Byddwn yn dod â’r rhuthr am 8:00 y bore i ben ac yn ehangu’r gwasanaethau sy'n cael eu cynnig gan fferyllfeydd, gan olygu y gall cleifion gael eu meddyginiaeth yn gyflym ac yn hawdd.”

Dywedodd prif weithredwr y GIG yn Lloegr, Amanda Pritchard y bydd y “pecyn uchelgeisiol” yn helpu i drawsnewid y modd y mae gofal yn cael ei ddarparu o fewn y gwasanaeth iechyd.

“Bydd yn ein helpu i ryddhau miliynau o apwyntiadau i’r rhai sydd eu hangen fwyaf, yn ogystal â chefnogi staff er mwyn iddyn nhw dreulio mwy o amser gyda chleifion,” meddai.

Llun: PA

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.