Arestio 64 o bobl ar ddiwrnod y coroni

Fe wnaeth Heddlu’r Metropolitan arestio 64 o bobl ar ddiwrnod coroni’r Brenin Charles ddydd Sadwrn gyda phedwar person yn cael eu cyhuddo.
Mae 32 o bobl a gafodd eu harestio am achosi anhrefn cyhoeddus wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth, ynghyd â 14 o bobl a gafodd eu harestio am dorri'r heddwch.
Ymysg y pedwar o gyhuddiadau, cafodd un person ei gyhuddo o drosedd trefn gyhoeddus, ac fe gafodd dau eu cyhuddo o fod â chyffuriau dosbarth A yn eu meddiant.
Mae un arall wedi ei gyhuddo o drosedd o dan adran pump o’r Ddeddf Trefn Gyhoeddus.
Mae disgwyl i’r pedwar ymddangos yn Llys Ynadon Westminster yn ddiweddarach y mis hwn.
Daw hyn yn sgil beirniadaeth ehangach gan grwpiau ymgyrchu sy'n dweud iddyn nhw gael eu hatal rhag protestio yn erbyn y frenhiniaeth ddydd Sadwrn.