Cyhuddo dyn o lofruddio dosbarthwr parseli yng Nghaerdydd

Mae dyn wedi ei gyhuddo o lofruddio dosbarthwr parseli ar Ffordd y Gogledd yng Nghaerdydd.
Bu farw Mark Lang yn Ysbyty Athrofaol Cymru yn y brifddinas yn dilyn y digwyddiad yn ardal Cathays ar ddydd Mawrth, 28 Mawrth.
Roedd Christopher Elgafari o Lanrhymni wedi wynebu cyhuddiad o geisio llofruddio, ond yn dilyn marwolaeth Mr Lang ar 15 Ebrill mae bellach wedi ei gyhuddo o lofruddio.
Mae wedi ei gadw yn y ddalfa ac fe fydd yn ymddangos yn Llys Ynadon Caerdydd yn ddiwedarach ddydd Gwener.
'Creulon'
Yn dilyn ei farwolaeth fe roddodd ei bartner deyrnged iddo gan ddweud: “Mae’n anodd rhoi mewn geiriau sut mae unrhyw un ohonom ni’n teimlo,” meddai.
“Dydw i ddim yn meddwl y gallwn ni fyth ddod dros rywbeth mor greulon a dibwrpas.
“Diolch i’r holl wasanaethau brys a wnaeth eu gorau i’w achub, y bobl oedd yno a geisiodd ddod o hyd i gymorth, a’r holl staff yn y Mynydd Bychan a sicrhaodd fod ei ddyddiau olaf yn gyfforddus.
“Drwy gydol hyn oll mae wedi bod yn gysur gweld cymaint o gariad a chefnogaeth gan gymaint o bobl oedd yn adnabod Mark.
“Roedd Mark yn ddyn da, gyda llawer o gariad i'w roi. Bu farw yn oriau mân y bore wedi'i amgylchynu gan deulu. Yn dawel. Yn gyfforddus. Bydd colled fawr ar ei ôl.”