Newyddion S4C

Buddugoliaethau arwyddocaol i Lafur yn etholiadau lleol Lloegr

05/05/2023
Starmer

Mae canlyniadau diweddaraf etholiadau lleol Lloegr yn awgrymu bod Llafur, yn ogystal â’r Democratiaid Rhyddfrydol, wedi cael noson dda.

Dywedodd yr arbenigwr ar etholiadau, yr Athro John Curtice ben bore ei fod yn bosib y gallai’r Ceidwadwyr golli 1,000 o seddi.

Yn ôl arolwg barn, pe bai Prydain gyfan yn pleidleisio ddydd Gwener, byddai gan y blaid Lafur fantais o naw pwynt dros y Ceidwadwyr.

Hyd yn hyn, mae gan Llafur 2,654 o seddi, sydd yn gynnydd o 527 ers yr etholiadau diwethaf tra bod gan y Ceidwadwyr 2,272 o seddi, sydd yn golled o 1,054. 

Mae gan y Democratiaid Rhyddfrydol 1,602 o seddi ar hyn o bryd, sydd y gynnydd o 414 ers yr etholiadau lleol diwethaf. 

Mae Llafur wedi cymryd rhelaeth o Swindon yn ogystal â Blackpool, Plymouth, Stoke-on-Trent, Medway a Dwyrain Sir Stafford. 

Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol hefyd wedi gwneud cynnydd sylweddol ers yr etholiadau lleol diwethaf, gyda'r blaid yn cipio Windsor, Stratford-on-Avon, Dacorum a Maidenhead.

Enillodd y Blaid Werdd eu mwyafrif cyntaf yng Nghanol Suffolk.

Dim ond lleiafrif o gynghorau wnaeth gyfri pleidleisiau dros nos, ac mae disgwyl i'r rhan fwyaf o ganlyniadau gael eu cyhoeddi yn ddiweddarach ddydd Gwener. 

Hyd yma, mae'r Ceidwadwyr wedi colli rheolaeth o 45 o gynghorau. 

'Hyderus'

Dywedodd Llafur eu bod nhw’n “hyderus” a bod y canlyniadau yn awgrymu eu bod nhw ar y trywydd iawn at ennill Etholiad Cyffredinol.

Roedd dros 50 o gynghorau yn Lloegr eisoes wedi datgan ben bore ddydd Gwener gyda Llafur yn cipio nifer o gynghorau allweddol yr oedden nhw wedi eu targedu, gan gynnwys Plymouth a Stoke-on-Trent.

“Yn seiliedig ar y canlyniadau sydd wedi eu cyhoeddi hyd yn hyn, ry’n ni’n hyderus y bydd Llafur yn gweld ein canlyniad gorau ers 1997,” meddai llefarydd ar ran y blaid.

“Pe bai Llafur 8% ar y blaen mewn Etholiad Cyffredinol fe fydden ni’n gallu ffurfio llywodraeth fwyafrifol.”

‘Anodd’

Dywedodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr ei fod yn “noson anodd” i’r blaid ond mai dim ond chwarter y cynghorau oedd wedi datgan dros nos.

“Mae yna ffordd hir i fynd eto,” medden nhw.

Cynhaliwyd etholiadau lleol yng Nghymru ym mis Mai'r llynedd gyda Llafur yn ennill tir sylweddol.

Roedd y blaid wedi gobeithio am batrwm tebyg yn Lloegr er mwyn dangos eu bod nhw ar y trywydd iawn tuag at Etholiad Cyffredinol.

Llun: PA

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.