Newyddion S4C

Ymosodwyr a saethodd tair o Brydain ar y Lan Orllewinol 'wedi eu lladd'

04/05/2023
teulu dee.jpg

Mae dau ymosodwr a saethodd mam o Brydain a'i dwy ferch ar y Lan Orllewinol wedi eu lladd.  

Cafodd Lucy Dee, 45 oed, ei hanafu ym mis Ebrill yn dilyn ymosodiad ar gar ei theulu.

Bu farw Mrs Dee ddiwrnod ar ôl angladd ei merched Rina, 15 oed a Maia, 20 oed, a gafodd eu saethu'n farw ar 7 Ebrill.

Roedd y tair aelod o’r teulu ymysg chwech o bobl a gafodd eu hanafu gan ymosodwyr Palesteinaidd wrth iddynt deithio i Tiberias yng Ngalilea ar gyfer eu gwyliau teuluol. 

Dywedodd milwyr Israel eu bod wedi lladd y ddau filwr o Balestina sydd wedi eu cyhuddo o lofruddio'r tair menyw. 

Cyhoeddodd Lluoedd Amddiffyn Israel mai Hassan Katnani a Maed Masri oedd y ddau a gafodd eu lladd, ac eu bod nhw'n aelodau o grŵp milwriaethus o'r enw Hamas.

Cafodd trydydd milwr a wnaeth helpu'r pâr, Ibrahim Hura, hefyd ei ladd yn ninas Nablus yn oriau mân ddydd Iau.  

Mewn datganiad, dywedodd gŵr Ms Dee, Rabbi Leo Dee, ei fod ef a'i blant "wedi ein cysuro o glywed fod lluoedd milwrol Israel wedi cael gwared o'r terfysgwyr wedi ei hariannu gan Iran oedd yn gyfrifol am lofruddiaethau Lucy, Maia a Rina.

"Cafodd hyn ei wneud mewn ffordd na wnaeth peryglu bywyd milwyr Israel na phobl ddiniwed Palestina."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.