Cyhoeddi cynnig i sefydlu pwyllgor ymchwiliad Covid-19 arbennig i Gymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynlluniau i sefydlu pwyllgor ymchwiliad Covid-19 arbennig i edrych yn fanwl ar y ffordd y bu'n ymdrin â’r pandemig, yn dilyn cytundeb annisgwyl rhwng Llafur Cymru a'r Ceidwadwyr Cymreig ar y mater.
Mewn cynnig ar y cyd, a gyflwynwyd nos Fercher, cynigiodd y ddwy blaid sefydlu Pwyllgor Diben Arbennig ar gyfer Ymchwiliad Covid-19 Cymru i archwilio’r adroddiadau a gyhoeddwyd gan Ymchwiliad Covid-19 y DU.
Gwaith y pwyllgor fyddai nodi unrhyw fylchau “ym mharodrwydd ac ymateb Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill Cymru yn ystod pandemig Covid-19 a ddylai gael eu harchwilio ymhellach”, meddai’r cynnig.
Mae’n dilyn ffrae hir am a ddylai Llywodraeth Cymru gynnal ymchwiliad cyhoeddus i’w hymateb ei hun i'r pandemig.
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig a Phlaid Cymru wedi galw'n gyson am ymchwiliad o’r fath, ond pleidleisiodd Llafur yn unfrydol yn erbyn cynnig ar y cyd gan y gwrthbleidiau fis Tachwedd diwethaf.
'Cyfarfodydd'
Mae’n debyg bod y cytundeb diweddaraf hwn wedi dod ar ôl i “gyfres o gyfarfodydd” gael eu cynnal rhwng y Prif Weinidog Mark Drakeford ac arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig Andrew RT Davies.
Dywedodd y Ceidwadwyr eu bod yn croesawu’r cyfaddawd “hanner ffordd”, ond dywedon nhw na fydden nhw’n rhoi’r gorau i’w galwadau am ymchwiliad cyhoeddus llawn.
Dywedodd Llafur ei bod yn iawn bod y penderfyniadau a gafwyd yn cael eu “craffu’n agored ac yn briodol”.
Mae Ymchwiliad Covid-19 y DU, sy’n cael ei gadeirio gan y Farwnes Hallett ac a sefydlwyd i archwilio ymateb y DU i’r pandemig, yn bwriadu cynnal tair wythnos o wrandawiadau cyhoeddus yng Nghymru ym mis Chwefror y flwyddyn nesaf.
Mae teuluoedd ac ymgyrchwyr wedi codi pryderon y bydd yr amser byr sydd wedi’i neilltuo ar gyfer rhan Cymru o’r ymchwiliad yn golygu nad yw camau gweithredu Llywodraeth Cymru yn cael eu craffu’n llawn.