Newyddion S4C

Menyw'n cwyno am oedi yn ei gofal cyn derbyn diagnosis o ganser

ITV Cymru 04/05/2023
S4C

Mae menyw 40 oed sydd wedi derbyn diagnosis o ganser na ellir ei wella yn honni ei bod wedi wynebu oedi yn ei gofal.

Fe wnaeth Claire O’Shea o Gaerdydd, ddarganfod bod ganddi lwmp ar ei habdomen ymnis Awst 2021, ac fe gafodd feddyginiaeth ar gyfer syndrom coluddyn llidus ar bresgripsiwn.

Pan wnaeth ei masseuse ofyn a oedd hi’n feichiog, bryd hynny yn unig y gwnaeth Claire boeni efallai fod rhywbeth mwy difrifol yn bod.

Mae hi wedi rhannu ei phrofiad fel rhan o ymholiad y Senedd i brofiadau menywod gyda chanser gynecolegol - y pedwerydd achos mwyaf cyffredin o farwolaethau yn gysylltiedig â chanser i fenywod yng Nghymru.

Fis Ionawr eleni, traean o gleifion yn unig gydag amheuaeth o ganser gynecolegol yng Nghymru ddechreuodd driniaeth ar amser.

Image
newyddion

"Dwi’n meddwl roedd yna gyfle i’r meddyg teulu ddod o hyd iddo’n gynt,” meddai Claire. 

“Wrth ddarllen am y symptomau roeddwn i’n eu profi, fel rhwymedd weithiau, bol chwyddedig, anesmwythder, dyma symptomau sawl gwahanol fath o ganser gynecolegol, a dylai hynny godi baner goch i unrhyw un.”

Fe aeth Claire yn ôl i’w meddyg teulu sawl gwaith, ac yn y pen draw, fe gafodd ei chyfeirio i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd am uwchsain yn Chwefror 2022.

Mae hi’n honni bod yr arbenigwyr wedi tanseilio’r amheuaeth o ganser i ffibroid, gafodd ei waredu trwy lawdriniaeth ym mis Medi.

Yn y cyfamser, roedd biopsi wedi cael ei gymryd a chwe wythnos yn ddiweddarach, roedd y canlyniadau’n datgelu bod gan Claire sarcoma - math prin o diwmor canseraidd yn ei chroth.

“Mae’n arbennig o ofnadwy achos mae’n ganser mor ffyrnig, mae’n ffyrnig iawn, iawn. 

“Os yw’r canser yn cael ei ddal, yna mae'r prognosis yn weddol. Os yw’n cael ei ddal yn hwyr, yna mae’r prognosis yn ofnadwy - tua 14% o bobl sy’n goroesi hyd at bum mlynedd, ac roeddwn i’n gwybod yn barod fy mod wedi bod yn brwydro am tua dwy flynedd.”

O fewn tair wythnos o ddiagnosis canser, fe gafodd Claire hysterectomi cyfan.

Fe wnaeth sgan flaenorol awgrymu'r hyn yr oedd meddygon yn ei amau, sef codennau afu, ac fe gafodd Claire gysur bod hynny’n beth cyffredin. 

Fodd bynnag, ar ôl gwneud ei hymchwil ei hun a phwyso am fwy o ymchwiliadau, fe wnaeth ail sgan ym mis Ebrill ddatgelu bod y canser wedi lledaenu i’w hafu, ysgyfaint a’i hesgyrn. 

“Gyda’r pwysau ar y GIG ar hyn o bryd, roedd y llawdriniaeth honno fisoedd ar y gorwel tra bod y canser yn tyfu. 

“I mi, mae yna restr o wallau bach wedi codi bob tro.

“Mae hi’n systemig, mae hi’n broblem gydag agweddau, yn arbennig yng nghofal sylfaenol menywod, fel ‘does ganddi ddim byd i’w boeni amdano’n fwy na stumog tost’.”

Erbyn hyn, mae Claire wedi cael ei chyfeirio at ymgynghorydd sarcoma yng Nghanolfan Ganser Felindre, ac mae hi ar fin dechrau cemotherapi. 

Yn 2021, fe wnaeth 373 o fenywod golli eu bywydau i ganser gynecolegol, sy’n cynnwys canser y groth a mwnwgl y groth, ofarïau, y fylfa a’r wain.

Mewn ymateb i honiadau Claire, dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro na fyddai’n gallu gwneud sylw ar achosion unigol.

Dywedodd llefarydd: “Byddem yn gofyn i Claire gysylltu’n â’n tîm cwynion lle bydden nhw’n hapus i drafod unrhyw bryderon sydd gan Claire ynghylch ei gofal.”

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod wedi ymrwymo i wella canlyniadau, ac wedi gosod ymagwedd fanwl i wella diagnosis a thriniaeth o ganser, gan gynnwys cyflwyno canolfannau diagnostig cyflym.

Fe wnaeth ychwanegu ei bod yn buddsoddi’n benodol i ymchwil canser gynecolegol.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.