Newyddion S4C

Agor pont newydd ym Mhen Llŷn

03/05/2023
Pont Bodefail.jpg

Mae pont newydd wedi ei hagor ym Mhen Llŷn.

Wedi pedair blynedd o waith a buddsoddiad o hyd at £3 miliwn, fe agorwyd Pont Bodefail mewn seremoni ddydd Mercher.

Mae’r bont yn croesi Afon Rhyd-hir ac yn ffurfio rhan o’r A497 rhwng Nefyn a Phwllheli, ac yn cymryd lle’r hen Bont Bodfal.

Cafodd gwelliannau eu gwneud i’r ffordd a gwaith draenio dŵr wyneb fel rhan o’r gwaith, sydd wedi ei gwblhau cyn i’r Eisteddfod Genedlaethol ymweld â’r ardal ym mis Awst.

Mae amddiffyn a dathlu enwau lleoedd cynhenid Cymreig yn flaenoriaeth i Gyngor Gwynedd a roedd Meirion McIntyre Huws, Swyddog Prosiect Hybu a Hyrwyddo’r Gymraeg y Cyngor, ar y panel a ddewisodd yr enw.

"Ffordd strategol bwysig"

Dywedodd y Cynghorydd Berwyn Parry Jones, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Adran Priffyrdd, Peirianneg a YGC (Ymgynghoriaeth Gwynedd): “Mae’r A497 yn ffordd strategol bwysig i’r bobl sy’n byw ac yn gweithio yn y rhan yma o Wynedd, felly mae’n braf cael bod yma ar ddiwrnod cyffrous a hanesyddol.

“Mae’r bont a’r ffordd newydd yn addas i anghenion modern a bydd yn gweud bywyd yn haws i bobl leol deithio o A i B. Mae’r hen Bont Bodfal wedi ei gwarchod fel ffordd hamdden ar gyfer cerddwyr a beicwyr.

“Dwi’n gwybod fod pethau wedi bod yn anodd dros y blynyddoedd diweddari’r tra roedd y gwaith yn mynd yn ei flaen a dwi’n hynod ddiolchgar am amynedd y gymuned leol drwy gydol y cyfnod hwn.”

"Ardal boblogaidd"

Torrwyd y rhuban gan y Cynghorydd Anwen Davies, yr Aelod Lleol dros ward Boduan ac Efailnewydd.

Meddai: “Mae cymaint o edrych ymlaen hefyd at Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd, gyda Maes y brifwyl dafliad carreg oddi wrth y bont, felly mae pawb yn falch fod y ei bod yn barod at pan fyddwn yn croesawu eisteddfodwyr o bob cwr o Gymru, a thu hwnt, yma i’r ardal.

“Mae hon yn ardal boblogaidd gyda thwristiaid hefyd felly bydd y bont newydd yn helpu i ni fedru ymdopi â thraffig ychwanegol y cyfnod gwyliau prysur wrth i bobl ddod yma i fwynhau cefn gwlad Llŷn.”

Caewyd yr hen Bont Bodfal – sy’n sefyll ers y 19eg Ganrif ac yn strwythur rhestredig Gradd II – yn Ionawr 2019 yn dilyn storm pan ddaeth i’r amlwg fod difrod a dirywiad sylweddol wedi bod i’w sylfeini.

Yn anffodus, roedd rhaid dargyfeirio traffig wyth milltir i’r Ffôr am gyfnod byr, tra cynhaliwyd gwaith argyfwng i osod pont dros dro a thrwsio’r hen bont.

Mae’r bont newydd tua 17 medr o hyd a thair medr o uchder gydag un bwa. Mae wedi bod ar agor i draffig ers rhai wythnosau ond mae ychydig o waith tacluso dal i fynd yn ei flaen.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.