Newyddion S4C

Pryder am ‘ansicrwydd’ a fydd gorsaf niwclear newydd yn dod i Wylfa

03/05/2023
CC

Mae Aelodau Seneddol sy’n cynrychioli Cymru wedi mynegi pryder ynglŷn â’r “ansicrwydd” a fydd gorsaf niwclear newydd yn dod i Wylfa wedi’r cwbl.

Mae pwyllgor trawsbleidiol sy'n cynnwys aelodau o'r Blaid Lafur, y Ceidwadwyr a Plaid Cymru wedi galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig am weithredu brys er mwyn sicrhau bod gorsaf niwclear newydd yn cael ei hadeiladu ar Ynys Môn.

Dywedodd Pwyllgor Materion Cymreig San Steffan mewn adroddiad a gyhoeddwyd ddydd Mercher fod peryg na fyddai targedau ynni niwclear yn cael eu gwireddu heb gychwyn arni yn fuan.

Doedd dim eto unrhyw gytundeb ar sut i ariannu'r Wylfa Newydd na chwaith berchnogaeth y tir fel bod modd adeiladu'r orsaf, medden nhw.

“Er mwyn i ddatblygiad yn Wylfa fynd rhagddo, mae rhwystrau pwysig yn parhau ynghylch ymrwymiad ariannol ac o ran codi'r cyfalaf sydd ei angen,” meddai'r adroddiad.

“Rydym yn cwestiynu am ba hyd y gall yr ansicrwydd ynghylch datblygiad niwclear newydd yn Wylfa barhau.

“Os bydd safle niwclear newydd yn dod i’r safle, mae angen mynd i'r afael â'r mater o berchnogaeth y tir ac rydym yn credu fod gan Lywodraeth y DU rôl i'w chwarae er mwyn sicrhau bod y safle ar gael i'w ddatblygu yn y dyfodol.

“Ein barn gyffredinol yw nad oes sicrwydd y daw niwclear newydd i Wylfa er gwaetha'r cynnydd sy'n cael ei wneud, ac mae angen mwy o ymrwymiad pendant gan Lywodraeth y DU i gyflawni prosiect yn Wylfa.”

Swyddi

Byddai gorsaf niwclear newydd ar Ynys Môn yn costio £20bn ond mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi dweud eu bod nhw’n benderfynol y bydd yn cael ei hadeiladu.

Maen nhw’n anelu at gynhyrchu chwarter ynni'r Deyrnas Unedig, sef 24GW, drwy gyfrwng ynni niwclear erbyn 2050.

Ar hyn o bryd dim ond 6.5GW, neu 15%, o ynni'r Deyrnas Unedig sy’n cael ei gynhyrchu o niwclear.

Ceisiodd Hitachi/Horizon Nuclear Power adeiladu Wylfa Newydd ar dir drws nesaf i'r adweithyddion Magnox sydd wedi’u datgomisiynu.

Ond tynnodd Hitachi yn ôl o'r datblygiad yn 2020 ar ôl methu â dod i gytundeb ariannu gyda Llywodraeth y DU. Mae'r tir yn parhau i gael ei reoli gan Horizon Nuclear Power drwy Hitachi.

Y gred yw y byddai Wylfa Newydd yn credu 10,000 o swyddi wrth adeiladu’r orsaf a 900 o rai parhaol wedyn.

Ond mae grwpiau ymgyrch gan gynnwys CND Cymru, Cymdeithas y Cymod, CADNO, a PAWB wedi gwrthwynebu'r cynlluniau.

Maen nhw wedi galw am fuddsoddi mewn ynni adnewyddadwy yn lle.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.