AS Ceidwadol yn wynebu cael ei wahardd o Dŷ’r Cyffredin

Mae Aelod Seneddol Ceidwadol Delyn, Rob Roberts, yn wynebu'r posibilrwydd o gael ei wahardd o Dŷ'r Cyffredin am chwe wythnos, ar ôl i adroddiad gan banel annibynnol ddod i'r casgliad ei fod yn euog o gamymddwyn rhyw.
Dywedodd Syr Stephen Irwin, cadeirydd y Panel Arbennigwyr Annibynnol fod y camymddwyn yn "arwyddocaol".
Mae cadeirydd y blaid Lafur, Anneliese Dodds, wedi galw ar Mr Roberts i gamu lawr.
Dywedodd llefarydd ar ran y Prif Weinidog y bydd y Llywodraeth yn ystyried y camau nesaf, gan ddisgwyl diweddariad maes o law.
Fe fydd yr Aelodau Seneddol nawr yn penderfynu a fydd y gwleidydd yn cael ei wahardd dros dro, yn ôl The Sun.
Darllenwch y stori'n llawn yma.
Llun: David Woolfall