Newidiadau mawr i'r dreth gyngor ym mis Ebrill y flwyddyn nesaf

Mae Llywodraeth Cymru wedi amlinellu newidiadau mawr i’r system dreth gyngor a fydd yn cael eu cyflwyno ym mis Ebrill y flwyddyn nesaf.
Dywedodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, Rebecca Evans, y bydd yn newidiadau yn "mynd i’r afael ag annhegwch yn y system bresennol".
Fe gyflwynodd y gweinidog y diwygiadau i’r Senedd heddiw, gan gynnwys bandiau mwy "blaengar" y mae hi'n dweud a fydd yn adlewyrchu’r data diweddara.
Bydd mwy o fanylion ynghylch sut fydd y system newydd yn edrych yn cael eu cadarnhau tuag at ddiwedd y flwyddyn hon.
Bydd y dreth gyngor yn parhau i ariannu gwasanaethau hanfodol fel ysgolion a gofal cymdeithasol, ond nid yw'r diwygiadau wedi'u cynllunio i godi mwy o refeniw yn gyffredinol na'r hyn sy'n cael ei godi ar hyn o bryd, meddai Rebecca Evans.
'Lleihau anghydraddoldebau'
Wrth siarad yn y Senedd, dywedodd Rebecca Evans: “Mae'r dreth gyngor yn dal i fod yn anflaengar o ran y ffordd y mae wedi'i chynllunio. Mae'n rhoi baich trymach ar aelwydydd sydd â llai o gyfoeth. Mae’r system fel ag y mae ar hyn o bryd yn ugain oed.
“Daw mwy o annhegwch gyda phob blwyddyn y byddwn yn parhau o dan y trefniadau presennol, a rhai o'r bobl tlotaf mewn cymdeithas sy'n cario’r baich.
“Mae'r dystiolaeth a'r arbenigwyr yn cytuno mai dyma un o'r camau mwyaf buddiol y gallwn eu cymryd er mwyn lleihau anghydraddoldebau o ran cyfoeth, a gaiff effaith ar bocedi'r rhai sydd ei angen fwyaf erbyn diwedd tymor y llywodraeth hon.”
Mae diwygio’r dreth gyngor yn ymrwymiad yn y Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.
Dywedodd Cefin Campbell, Aelod Dynodedig Plaid Cymru: “Ar y cyd, mae Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddiwygio’r system drethiant hen ffasiwn hon i’w gwneud yn decach.
“Mae’r system dreth gyngor bresennol bron yn ugain oed, ac mae’n cyfrannu at anghydraddoldebau o ran cyfoeth ac yn effeithio’n anghymesur ar ardaloedd tlotach Cymru.”
'Amheuaeth'
Dywedodd Sam Rowlands, Aelod Seneddol dros y Ceidwadwyr: “Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud nad yw’n ceisio codi mwy o arian o’r newidiadau sydd wedi eu cynnig.
“Fodd bynnag, rydym yn clywed yn aml am ddiffyg arian gennych chi neu gan Weinidogion eraill, yn enwedig o fewn awdurdodau lleol.
"Felly maddeuwch fy amheuaeth os ydi’r diwygiadau helaeth a hirfaith yma am fod yn wirioneddol refeniw niwtral.”