
Dod o hyd i un o gasgliadau ffosiliau pwysicaf y byd yng Nghymru

Mae un o’r casgliadau ffosiliau pwysicaf yn y byd wedi ei ddarganfod yng Nghymru, yn ôl gwyddonwyr.
Mae nifer fawr o ffosilau newydd, gan gynnwys dros 170 o rywogaethau gwahanol, wedi'u darganfod ger Llandrindod ym Mhowys.
Mae un o’r rhywogaethau newydd a ddaethpwyd o hyd iddo ymysg y ffosiliau wedi cael enw sy’n deillio o’r Gymraeg - Mieridduryn bonniae.
Daeth ymchwilwyr Amgueddfa Cymru o hyd i’r ffosilau mewn creigiau a oedd yn gorwedd ar wely’r môr dros 460 miliwn o flynyddoedd yn ôl.
Bryd hynny roedd yr ardal sydd bellach yng nghanolbarth Cymru wedi’i orchuddio gan gefnfor.
Cafodd y ffosilau eu darganfod yn ystod cyfnod clo Covid-19 yn 2020, mewn lleoliad cyfrinachol ar dir preifat o’r enw Craig y Castell.
Roedd ar dir nid nepell o gartref yr ymchwilwyr o Landrindod, Dr Joseph Botting a Dr Lucy Muir.
Beth sy’n gwneud y darganfyddiad yn unigryw, medden nhw, ydi bod meinweoedd meddal ac organebau cyflawn wedi eu ffosileiddio, yn hytrach na rhannau caled fel cregyn ac esgyrn yn unig.
Daw y rhan fwyaf o'r ffosilau o’r Cyfnod Cambriaidd ond mae Craig y Castell yn dyddio o ganol y cyfnod Ordoficaidd, tua 50 miliwn o flynyddoedd yn ddiweddarach.

'Gwirioneddol ryfeddol'
Mae Dr Botting a Dr Muir wedi treulio dros 100 diwrnod yn y maes yn casglu’r ffosilau ac yn gweithio gyda chydweithwyr yng Nghaerdydd, Caergrawnt, Sweden a Tsieina i archwilio’r darganfyddiadau.
Dywedodd Dr Botting: “Mae yna rai safleoedd ffosil Ordofigaidd cynnar pwysig iawn ond mae’r rheiny’n dyddio o gyfnod llawer cynharach, ac mae rhywogaethau â chorff meddal yn brin iawn."
Cafodd ffosilau o lawer o wahanol fathau o greaduriaid eu darganfod yng Nghraig y Castell ac roedd y rhan fwyaf yn fach - rhwng 1mm a 5mm.
Mae mannau lle mae ffosiliau meddal o'r fath i'w cael yn hynod brin. Dim ond un safle Ordoficaidd arall yn y byd, y Fezouata Biota o Foroco, sydd wedi gweld darganfyddiad tebyg.

'Dim ond y dechrau'
“Yma, ymddengys, mae gennym ni bopeth. Er gwaethaf yr amrywiaeth anhygoel o ffosilau sydd eisoes wedi eu darganfod, prin fod y gwaith wedi dechrau," meddai Dr Botting.
“Bob tro rydyn ni'n mynd yn ôl, rydyn ni'n dod o hyd i rywbeth newydd, ac weithiau mae'n rhywbeth gwirioneddol ryfeddol.
“Mae yna lawer o gwestiynau heb eu hateb, ac mae'r safle hwn yn mynd i barhau i gynhyrchu darganfyddiadau newydd am ddegawdau.
“Dim ond y dechrau yw hyn, ac rydyn ni’n gyffrous i weld beth ddaw nesaf.”