Newyddion S4C

Dyn wedi marw a saith wedi eu hanafu tu allan i glwb nos yng Nghernyw

30/04/2023
Yr Heddlu

Mae dyn wedi marw a saith arall wedi dioddef anafiadau yn dilyn achos o drywanu yn Bodmin, Cernyw.

Cafodd yr heddlu eu galw am 03.15 ddydd Sul i ardal Sgwâr Fictoria ar Ffordd Castell Canyke yn dilyn adroddiadau pobl wedi dioddef anafiadau trywanu.

Bu farw dyn yn ei 30au yn y fan a’r lle ac mae dyn 24 oed o Bodmin wedi ei arestio ar amheuaeth o lofruddio, ceisio llofruddio ac achosi niwed corfforol difrifol yn fwriadol.

Dywedodd Heddlu Dyfnaint a Chernyw fod teulu agos y dyn fu farw wedi cael gwybod a'u bod yn derbyn cefnogi gan swyddogion arbenigol.

Dywedodd y llu fod o leiaf saith dyn a dynes arall wedi eu hanafu a'u bod wedi eu cludo i'r ysbyty i gael triniaeth.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Ilona Rosson o’r Tîm Ymchwilio i Droseddau Difrifol: “Yn dilyn digwyddiad yn Bodmin neithiwr, mae dyn yn ei 30au wedi’i gadarnhau wedi marw ac mae swyddogion yn cefnogi ei berthynas agosaf.

“Ar hyn o bryd rydym yn trin hwn fel mater ynysig ac nid ydym yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â’r digwyddiad hwn.

“Mae hwn yn ymchwiliad byw a gweithredol gan yr heddlu a byddwn yn annog pobl i beidio â dyfalu ar gyfryngau cymdeithasol, ond os oes gennych chi wybodaeth a allai fod o gymorth i ni, rhowch wybod i ni.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.