Newyddion S4C

Dechrau ymgyrch i brynu hen gartref yr ymgyrchwyr iaith Eileen a Trefor Beasley

Dechrau ymgyrch i brynu hen gartref yr ymgyrchwyr iaith Eileen a Trefor Beasley

NS4C 30/04/2023

Mae ymgyrch ar droed i brynu hen dŷ'r ymgyrchwyr iaith Eileen a Trefor Beasley yn yr Allt, Llangennech.

Roedd Eileen a Trefor Beasley yn byw yn y tŷ rhwng 1952 a 1964 ac yn ystod y cyfnod yma fe wnaeth y ddau wrthod talu eu bil treth tan fod llythyrau'r Swyddfa Dreth yn cael eu hysgrifennu’n ddwyieithog.

Ar ôl wyth mlynedd a sawl achos llys derbyniodd y ddau lythyr treth yn ddwyieithog am y tro cyntaf yn 1960.

Cafodd yr ymgyrch i brynu eu tŷ ei chychwyn gan Fenter Cwm Gwendraeth Elli ac mae Swyddog Datblygu Tref Llanelli, John Derek Rees, yn edmygu “aberth” Eileen a Trefor Beasley.

“Aethon nhw i’r llys dwsin o weithiau, oedd y bailiffs wrth y drws, ar un adeg gwnaethon nhw hyd yn oed cymryd y carpedi o’r llawr, gwnaethon nhw aberth enfawr, collon nhw eu heiddo i gyd i’r ymgyrch a nhw yn wir dechreuodd brwydr yr iaith.”

Ychwanegodd un o wyrion y Beasleys, Cynog Prys: “Dim ond bwrdd, pedwar cadair a dau wely, dyna oedd y cyfan o’r dodrefn yn y tŷ, buon nhw byw yna am wyth mlynedd fel ‘na gyda dim cysur.

"Bysai’n lyfli gweld rhywbeth yn digwydd efo’r tŷ eto, cael pobl mewn yna, hyd yn oed byw yno hefyd, byddai’n neis cael pobl rownd y bwrdd, eistedd mewn cyfeillgarwch, a thrafod materion y dydd achos dyna be oedden nhw’n eu gwneud yn y cartref yma.”

Canolfan dreftadaeth

Mae Menter Cwm Gwendraeth Elli yn galw ar bobl y gymuned i gyfrannu er mwyn prynu’r tŷ, ei hadnewyddu, creu canolfan dreftadaeth ac “achub yr adeilad i’r gymuned” yn ôl Derek Rees.

I Cynog Prys, mae dirywiad y tŷ yn ei ddigalonni: “Mae’r tŷ yn un weddol fach, bron bwthyn bach ar gyrion y pentref yw e, mae’n reit drist i weld sut mae’r tŷ wedi mynd a'i ben iddo fo gyda thyfiant ym mhobman a dyw e ddim yn edrych yn grêt.

“Mae’r tŷ yn arwyddocaol, os ni’n meddwl amdan frwydr yr iaith a’r adfywio ieithyddol sydd ‘di bod yng Nghymru, ti’n meddwl am leoliadau brics a mortar eraill a buodd yn rhan o’r stori yna.

"Lleoedd fel Pont Trefechan, yr ysgol Gymraeg cyntaf yn Aberystwyth, Tryweryn ei hun, ti’n meddwl am lefydd go iawn a’r adeiladau yma, mae tŷ’r Beasleys yn y cyfnod yma yn rhan o hanes a stori’r Gymraeg.

"Fel aelod o'r teulu, fi'n meddwl bydden i'n cefnogol o weld rhywbeth yn cael ei wneud iddo, yn enwedig wrth weld y cyflwr truenus mae 'di mynd iddo erbyn hyn.

“Dwi’n meddwl oedden nhw'n meddwl be oedden nhw’n neud yn y peth iawn, o’n nhw’n bobl egwyddorol iawn, dwi jyst mor falch bod nhw ‘di dal ati fel bod pobl fel fi, fy nheulu i a fy mhlant i 'di cael manteisio ar hyn.”

I Derek Rees y gobaith yw y bydd pobl yn talu teyrnged i’r Beasleys drwy roi arian i helpu’r ymgais i brynu’r tŷ.

“Gair ni’n cadw defnyddio pan ni’n sôn am y Beasleys yw dyled, ni’n ddyledus iddyn nhw, ni gyd mewn lle gwell oherwydd nhw, os ni gyd yn rhoi tamaid bach i mewn i’r prosiect hwn mae’n mynd yn bell i dalu’n dyled ni oherwydd yr aberth wnaethon nhw.”

Dywedodd Cynog Prys fod ein dyled i'r Beasleys am eu safiad yn un sylweddol:

“Dwi’n meddwl oedden nhw’n meddwl be oedden nhw’n neud yn y peth iawn, o’n nhw’n bobl egwyddorol iawn, dwi jyst mor falch bod nhw ‘di dal ati fel bod pobl fel fi, fy nheulu i a fy mhlant i 'di cael manteisio ar hyn.”

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.