Pryder i Gymru wedi i Neco Williams dorri asgwrn ei ên wrth daro yn erbyn Cymro arall

Bydd Cymru ar bigau'r drain wedi i Neco Williams ddioddef anaf wrth daro yn erbyn Cymro arall.
Fe wnaeth Neco Williams dorri asgwrn yn ei ên wedi iddo ergydio â'r ymosodwr Brennan Johnson yng ngêm Nottingham Forest yn erbyn Brighton nos Fercher.
Bu'n rhaid iddo adael y cae ac fe gafodd ei gludo i'r ysbyty.
Does dim disgwyl i Williams ddychwelyd i'r cae'r tymor hwn, a bydd hyfforddwr Cymru, Rob Page, yn poeni a fydd yr amddiffynnwr yn holliach erbyn gemau rhagbrofol Ewro 2024 ym mis Mehefin.
Armenia a Thwrci yw gwrthwynebwyr Cymru ar 16 a 19 Mehefin. Roedd Neco Williams wedi chwarae yn nwy gêm agoriadol ymgyrch Cymru yn erbyn Croatia a Latfia ym mis Mawrth.
Ond ac yntau wedi ei anafu am weddill y tymor ar 28 Mai, dim ond mis fydd ganddo i fod yn barod ar gyfer gemau Cymru.