Newyddion S4C

Pum newid wrth i fenywod Cymru herio'r Eidal yn eu gêm olaf yn y Chwe Gwlad

27/04/2023
merched rygbi Cymru

Mae hyfforddwr tîm rygbi menywod Cymru wedi gwneud pum newid i'w dîm ers y golled i Ffrainc, wrth i fenywod Cymru herio'r Eidal ddydd Sadwrn. 

Ar ôl gwneud saith newid ar gyfer y gêm yn erbyn Ffrainc, mae Ioan Cunningham wedi gwneud pum newid arall gan gadw'r un blaenwyr a wnaeth ddechrau yn erbyn Lloegr.

Yn y cefn bydd Lleucu George a Carys Williams-Morris yn cadw'u lle ac fe all yr asgellwr Ameila Tutt ennill ei chap cyntaf os daw oddi ar y fainc. 

Y penwythnos diwethaf fe gollodd Cymru yn Grenoble o 39-14 yn erbyn Ffrainc, gan golli'r cyfle o ennill y Chwe Gwlad am flwyddyn arall. 

Gyda buddugoliaethau yn erbyn Iwerddon a'r Alban a cholli yn erbyn Lloegr a Ffrainc, mae Cymru yn yr un sefyllfa ag yr oeddynt 12 mis yn ôl, ond fe fyddant yn gobeithio am ganlyniad gwell yn erbyn yr Azzuri eleni. 

Dywedodd Ioan Cunningham bod y gêm yn gyfle i ddangos cynnydd: "Ni heb wneud cyfrinach o'r faith ein bod wedi targedu tair buddugoliaeth yn y bencampwriaeth, ni eisiau cymryd rhai camau ymlaen o flwyddyn ddiwethaf.

"Flwyddyn ddiwethaf oedd gennym ni dwy fuddugoliaeth ac 11 pwynt, eleni ni eisiau tair buddugoliaeth ac efallai 15 pwynt."

Collodd Cymru 10-8 yng Nghaerdydd y llynedd, gyda'r Eidalwyr yn cipio'r fuddugoliaeth gyda chic gosb yn y funud olaf. 

"Bydden nhw yn sicr yn brifo ar ôl y golled i'r Alban" ychwanegodd Ioan Cunningham.

"Mae ganddynt lawer o fygythiadau ar draws y cae yn enwedig yn y cefnwyr, felly mae'n mynd i fod yn gêm anodd i ni ddydd Sadwrn." 

Gydag un pwynt bonws fe allai Cymru sicrhau'r trydydd safle a lle yn lefel uchaf twrnamaint newydd y WXV gan wynebu timau gorau'r byd.

Bydd y gêm yn cychwyn am 15:30 yn Stadiwm Sergio Lanfranchi yn Parma ddydd Sadwrn. 

Tîm Cymru:

15. Courtney Keight (Bryste)

14. Lisa Neumann (Caerloyw)

13. Hannah Jones (capten, Caerloyw)

12. Lleucu George (Caerloyw)

11. Carys Williams- Morris (Loughborough Lightning)

10. Elinor Snowsill (Bryste)

9. Keira Bevan (Bryste)

1.Gwenllian Pyrs (Bryste)

2. Kelsey Jones (Caerloyw)

3. Sisilia Tuipulotu (Caerloyw)

4. Abbie Fleming (Caerwysg)

5. Georgia Evans (Saraseniaid)

6. Bethan Lewis (Caerloyw)

7. Alex Callender (Caerwrangon)

8. Sioned Harries (Caerwrangon)

Eilyddion

16. Carys Phillips (Caerwrangon)

17. Caryl Thomas (Bryste)

18. Cerys Hale (Caerloyw)

19. Bryonie King (Bryste)

20. Kate Williams (Caerloyw)

21. Ffion Lewis (Caerwrangon)

22. Kerin Lake (Caerloyw)

23. Amelia Tutt (Loughborough Lightning)

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.