Levi Bellfield 'wedi cyffesu' i lofruddio Lin a Megan Russell medd y dyn sydd wedi ei garcharu am y drosedd

Mae'r dyn sydd wedi ei garcharu am lofruddio Lin a Megan Russell wedi dweud bod y llofrudd Levi Bellfield "wedi cyffesu o'r newydd" i gyflawni'r drosedd, yn ôl adroddiad gan The Mirror.
Dywedodd Michael Stone, 62, bod datganiad Bellfield yn cynnwys gwybodaeth mai dim ond y llofrudd yn unig fyddai'n gwybod amdano.
Bu farw Lin a Megan Russell a'u ci yn ystod yr ymosodiad brawychus yng Nghaint ym 1996.
Cafodd Michael Stone ei ddedfrydu i 26 mlynedd o garchar yn dilyn achosion llys yn 1998 a 2001, ac mae wedi gwadu erioed mai ef yw'r llofrudd.
Mae honiad Stone am gyffes newydd Bellfield yn nwylo'r Comisiwn Adolygu Achosion Troseddol, sydd yn edrych ar ei euogfarn ers 2017.
Mae Bellfield wedi ei ddedfrydu i oes yn y carchar am lofruddio Milly Dowler, Marsha McDonnell, Amélie Delagrange a chyfres o ymosodiadau ar fenywod.
Mae wedi cyffesu yn y gorffennol i lofruddio Lin a Megan, cyn dweud ei fod wedi gwneud hynny "fel jôc" er mwyn cythruddo Michael Stone.
Ond y tro yma, mae ei gyfreithiwr yn dweud fod y gyffes newydd yn wahanol. Wrth siarad gyda The Mirror, dywedodd Theresa Clark: "Yr unig beth dwi'n gallu ei ddweud yw ei fod yn derbyn cyfrifoldeb."
Roedd teulu'r Russells yn arfer byw yng Nghymru cyn symud i Gaint, ac mae merch Lin, Josie Russell, wnaeth oroesi'r ymosodiad yn 1996, wedi dychwelyd i fyw i Wynedd ble mae hi bellach yn artist llwyddiannus.