Newyddion S4C

Llywodraeth Cymru yn cytuno i ail-edrych ar ffordd newydd ar gyfer Llanbedr

Llanbedr

Mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno i ail-edrych ar y posibilrwydd o adeiladu ffordd newydd yn Llanbedr yng Ngwynedd.

Dywedodd y Gweinidog Trafnidiaeth Lee Waters y byddai yn cydweithio gydag aelodau etholedig lleol ar “ffordd ar raddfa lai”.

Penderfynodd Llywodraeth Cymru fis Tachwedd y llynedd i gefnu ar ffordd osgoi newydd, ar ôl cymeradwyo'r cynlluniau ym mis Mawrth 2020.

Daeth hynny wedi i adolygiad o holl brosiectau ffyrdd newydd Cymru ddod i'r casgliad y byddai ffordd osgoi newydd yn Llanbedr yn debygol o gynyddu allyriadau carbon.

Ond wedi trafodaethau rhwng y Gweinidog Trafnidiaeth Lee Waters, a’r aelodau o Senedd Cymru a San Steffan Mabon ap Gwynfor a Liz Saville Roberts, ac arweinydd y cyngor Dyfrig Siencyn, ac ymgyrchwyr lleol agorwyd cil y drws ar adeiladu ffordd newydd.

“'Roedd yn braf cael mynd o gwmpas bwrdd gydag ymgyrchwyr o Lanbedr a'u cynrychiolwyr etholedig lleol,” meddai Lee Waters.

“Ry’n ni wedi cytuno i weithio ar y cyd i fwrw ymlaen ag argymhellion y panel adolygu ffyrdd.

“Mae hynny’n cynnwys pecyn o fesurau trafnidiaeth gynaliadwy, gwelliannau i ddiogelwch y ffyrdd, a hefyd ystyried ffordd ar raddfa lai.”

Dywedodd Mabon ap Gwynfor a Liz Saville Roberts ei fod yn “newyddion gwych i bobol Llanbedr a’r cymunedau o’u hamgylch”.

“Mae pobol Llanbedr wedi bod yn ymgyrchu ers 50 mlynedd am ddatrysiad i’w problem,” medden nhw.

“Fe fydd y cynnig uchelgeisiol yma’n dod a gwelliannau go iawn i’r ardal.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.