Jak Jones allan o Bencampwriaeth Snwcer y Byd

Mae'r Cymro Jak Jones allan o Bencampwriaeth Snwcer y Byd wedi iddo golli 13-10 yn erbyn Mark Allen o Ogledd Iwerddon.
Dechreuodd Jones yn gryf ddydd Mawrth gyda mantais o 3-1 cyn i Mark Allen daro yn ôl, gyda'r ddau yn gyfartal, wyth ffrâm yr un dros nos.
Er i Jones, yn wreiddiol o Gwmbrân, gipio ffrâm gyntaf ddydd Mercher a hefyd sicrhau toriad gwych o 124, fe wnaeth Mark Allen ymestyn ei fantais i 12-10 cyn iddo ennill y ffrâm olaf i gyrraedd y rownd gynderfynol am y tro cyntaf ers 2009.
Roedd Jones yn gobeithio i fod y cyntaf ers 1995 i gyrraedd y rownd gynderfynol ar ôl ennill ei le yn y gystadleuaeth trwy'r gemau rhagbrofol, ond methodd ar adegau alweddol yn ystod gem agos a bratiog.
Er y golled, mae'r bencampwriaeth wedi bod yn un lwyddiannus i Jak Jones ar ôl iddo guro Ali Carter a Neil Robertson yn ystod ei ymddangosiad cyntaf ym Mhencampwriaeth Snwcer y Byd.