Microsoft wedi ei atal rhag prynu cwmni gemau fideo

Mae ymgais Microsoft i brynu'r cwmni gemau fideo Activision Blizzard am 68.7 biliwn o ddoleri (£55 biliwn) wedi cael ei hatal gan reoleiddwr cystadleuaeth y DU.
Dywedodd yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd (ACM) ei fod wedi rhwystro’r cytundeb enfawr oherwydd pryderon oddi mewn i'r sector gemau fideo ar- lein.
Pe bai'r cytundeb wedi ei gymeradwyo, byddai Microsoft yn berchen ar gemau fel Call of Duty a Candy Crush.
Ond roedd y rheoleiddiwr yn pryderu y byddai llai o ddewis i chwaraewyr gemau.
Mae Microsoft ac Activision yn bwriadu apelio yn erbyn y penderfyniad.
Dywedodd cadeirydd y panel annibynnol o arbenigwyr oedd yn cynnal ymchwiliad yr ACM: “Mae Microsoft eisoes yn mwynhau safle cryf ym maes gemau fideo ar- lein, a byddai’r cytundeb hwn wedi cryfhau’r fantais honno, gan eu galluogi i danseilio cystadleuwyr newydd.
“Cysylltodd Microsoft â ni mewn modd adeiladol i geisio datrys y materion hyn, ac rydym yn ddiolchgar am hynny. Ond dyw'r cynigion ddim wedi lleddfu ein pryderon.”