Dyn 44 oed o Gaerdydd wedi marw mewn gwrthdrawiad ar yr M4

18/04/2023
m4.jpg

Mae dyn 44 oed o Gaerdydd wedi marw mewn gwrthdrawiad ar draffordd yr M4 ddydd Llun.

Dywedodd Heddlu De Cymru bod fan Mercedes Sprinter wedi gwrthdaro gyda chroesfannau'r llain ganol (central reservation) ar yr M4 rhwng cyffordd 36 a 37.

Yn sgil y gwrthdrawiad, bu farw dyn 44 oed. 

Mae ei deulu wedi cael gwybod ac maent yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol. 

Cafodd y draffordd ei hailagor am tua 22:30 nos Lun, ac mae gofyn i unrhyw un sydd gan wybodaeth am y digwyddiad i gysylltu gyda'r heddlu drwy ddefnyddio'r cyfeirnod 2300122673.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.