14 wedi marw yn yr Eidal ar ôl i gar cebl gwympo

Mae o leiaf 14 o bobl wedi marw ger Llyn Maggiore yng ngogledd yr Eidal ar ôl i gar cebl dorri'n rhydd.
Dywed Sky News fod gwasanaeth achub mynydd yr Eidal wedi cadarnhau fod y car cebl wedi dod yn rhydd ger copa mynydd Mattorone am 11:00 fore Sul.
Cafodd ei adrodd yn gynharach fod 11 o deithwyr yn y car ar y pryd, gyda dau blentyn yn cael eu cludo i'r ysbyty yn Turin gyda hofrennydd.
Mae'r plentyn ieuengaf, bachgen pump oed, mewn "cyflwr difrifol' yn ôl y papur newydd Corriere della Sera.
Darllenwch y stori'n llawn yma.
Llun: Vigili del Fuoco