Newyddion S4C

Rhieni yn gwrthwynebu rhoi enw Cymraeg i ysgol Saesneg

30/03/2023
Ysgol Uwchradd Hawthorn

Mae rhai rhieni wedi gwrthwynebu rhoi enw Cymraeg i ysgol newydd a fydd yn agor y flwyddyn nesaf ym Mhontypridd, ac wedi galw am gadw enw Saesneg yr hen ysgol.

Maen nhw’n galw ar ysgol newydd i blant 3-19 oed a fydd yn agor yn 2024 i gadw enw’r ysgol uwchradd flaenorol, Hawthorn, yn hytrach na mabwysiadu un ddwyieithog.

Mae’r cyngor wedi cynnig pedwar enw posib ar gyfer yr ysgol newydd, ar ôl penderfynu ei sefydlu yn 2019:

  • Ysgol Afon Wen/White River School
  • Ysgol Glan Dŵr/Waterside School
  • Ysgol Cae Celyn/Hollyfield School
  • Ysgol Coed Ilan/Ilan Woods School

Mewn ymgynghoriad, Ysgol Afon Wen dderbyniodd nifer uchaf y pleidleisiau.

Ond mae rhai o drigolion Hawthorn wedi gwrthwynebu’r newid, gan alw am gadw’r enw Saesneg yn unig.

Dywedodd Christine Thompson ei bod hi, ei mam a’i phlant wedi bod i’r ysgol gynradd.

Nid oedd hi’n deall pam eu bod nhw’n cynnig pedwar enw oedd yn cynnwys y Gymraeg ar gyfer ysgol Saesneg, meddai.

Roedd hynny’n “tanseilio” y Saesneg a oedd “o fwy o ddefnydd i blant yn y byd mawr,” meddai.

Roedd Llywodraeth Cymru yn “rhy ynysig” a ddim yn “meddwl am yr effaith ehangach,” ychwanegodd.

“Dylai’r pwysais fod ar addysg nid ar ail-frandio,” meddai, gan ddweud y byddai dillad ysgol gyda’r logo newydd yn gostus.

“Hawthorn oedd enw’r ysgol erioed oherwydd y coed. Pam eu bod nhw mor benderfynol o gael gwared o'r enw?”

‘Gwreiddiau’

Dywedodd Denise Morgan, a aeth i’r ysgol, fod yr enw Hawthorn wedi bod yn rhan o’r gymuned ers blynyddoedd.

“Dyw’r enw newydd ddim yn golygu dim i fi a’r trigolion eraill,” meddai.

“Mae gan yr enw wreiddiau hanesyddol yn yr ardal. Pam eu bod nhw eisiau ei gymryd oddi arnom ni?”

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Rhondda Cynon Taf bod y rhestr fer o enwau wedi eu dewis o awgrymiadau'r disgyblion a’r staff.

“Mae’r disgyblion wedi chwarae rhan ganolog wrth ddewis enw addas ac maen nhw wedi cael dweud eu dweud cyn yr ymgynghoriad cyhoeddus ehangach,” meddai.

Mae dyddiad cau'r ymgynghoriad ar 4 Ebrill.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.