Pwy yw'r chwaraewyr newydd yng ngharfan Cymru?

24/03/2023
chwaraewyr newydd cymru

Bydd Cymru yn camu i'r cae ddydd Sadwrn am y tro cyntaf ers Cwpan y Byd er mwyn ceisio ennill lle mewn twrnamaint rhyngwladol arall.

Ddydd Sadwrn bydd Cymru yn herio Croatia yng ngêm agoriadol ymgyrch ragbrofol UEFA Ewro 2024.

Ers perfformiad siomedig y cochion yng Nghwpan y Byd, mae nifer o chwaraewyr profiadol wedi penderfynu dod â'u hamser gyda'r tîm rhyngwladol i ben.

Gareth Bale, Joe Allen, Chris Gunter a Jonny Williams yw'r chwaraewyr sydd wedi ymddeol, gyda'r pedwarawd wedi casglu 327 o gapiau rhyngddynt.

Nawr mae'n amser i wynebau newydd gael eu cynnwys yn y garfan, ond pwy yn union yw bechgyn newydd Rob Page?

Nathan Broadhead

Yn wreiddiol o Fangor, ymunodd Broadhead ag academi Everton yn 10 oed.

Treuliodd yr asgellwr chwe blwyddyn gyda'r Toffees, gan wneud dau ymddangosiad yn ystod ei gyfnod yno.

Fe aeth ar fenthyg i glybiau Burton Albion, Sunderland a Wigan Athletic tra oedd yn chwarae i Everton, gyda'i dymor mwyaf llwyddiannus yn dod gyda Sunderland, pan sgoriodd 10 gôl mewn 20 gêm.

Gadawodd Everton ym mis Ionawr eleni, gan ymuno ag Ipswich am £1.5 miliwn.

Mae Broadhead wedi chwarae 11 o gemau ers ymuno ac wedi rhwydo pedair gwaith, ac mae ei berfformiadau wedi ennill le iddo yng ngharfan Cymru.

Tom Bradshaw

Dyma'r gŵr sydd wedi bod yn sgorio'n ddi-baid yn y Bencampwriaeth eleni, gan arwain at ennill gwobr chwaraewr y mis y gynghrair ym mis Chwefror.

Er iddo gael ei eni yn yr Amwythig, cafodd Bradshaw ei fagu yn Nhywyn yng Ngwynedd ac roedd yn ddisgybl yn Ysgol Penglais yn Aberystwyth.

Dechreuodd ei yrfa gydag Aberystwyth cyn symud i'r Amwythig, Walsall, Barnsley ac wedyn Millwall.

Image
Tom Bradshaw
Chwith i dde: Lee Evans, Tom Lawrence, Marley Watkins a Tom Bradshaw. Llun: Cymdeithas Bêl-droed Cymru.

Mae'r ymosodwr wedi sgorio 14 o goliau i Millwall y tymor hwn, gan ddal sylw Rob Page.

Pe bai Bradshaw yn chwarae yn erbyn Croatia neu Latfia, dyna fydd ei bedwerydd ymddangosiad dros Gymru.

Chwaraeodd ei gêm gyntaf yn erbyn Wcráin yn 2016, gyda'r diweddaraf yn erbyn Tsieina yn 2018.

Ollie Cooper

Bydd cefnogwyr Cymru yn gwybod am Ollie Cooper, wedi iddo gael ei enwi fel chwaraewr wrth gefn yng ngharfan Cwpan y Byd.

Yn fab i gyn-chwaraewr Caerdydd a Chasnewydd, Kevin Cooper, mae Ollie yn chwarae i Abertawe.

Casnewydd ac Abertawe yw'r unig glybiau mae Cooper wedi chwarae iddynt, ac eleni mae'r chwaraewr canol cae wedi bod yn un o sêr yr Elyrch.

Mae Cooper wedi sgorio pump o goliau, gan gynnwys gôl gampus oddi ar y bar yn erbyn Caerdydd ym mis Hydref y llynedd.

Ni chwaraeodd yn Qatar, ond cafodd profiad o fod yn rhan o'r garfan, a bydd rhai aelodau'r wal goch yn gobeithio y bydd yn gwisgo'r crys coch ar y cae ddydd Sadwrn.

Jordan James

Chwaraewr wrth gefn arall yn Qatar oedd Jordan James.

Cafodd y chwaraewr canol cae ei ddewis er mwyn cael profiad gyda'r garfan yn dilyn perfformiadau campus i'w clwb Birmingham.

Er ei fod ond yn 19 oed, mae wedi chwarae 47 o gemau i Birmingham, ac wedi cynrychioli timau dan 21 Cymru a Lloegr.

Wedi iddo gael ei enwi yng ngharfan dynion Cymru yn 2022, mae James wedi ymrwymo i chwarae dros y cochion, ac fe fydd yn gobeithio chwarae am y tro cyntaf yn erbyn Croatia neu Latfia.

Luke Harris 

Roedd llawer o gyffro o gwmpas y bachgen ifanc hwn pan sgoriodd tair gôl i dîm dan 23 Fulham ym mis Chwefror y llynedd.

Roedd y misoedd nesaf yn rhai cofiadwy i Harris, wedi iddo arwyddo cytundeb proffesiynol gyda'r clwb a chwarae i'r tîm cyntaf yng nghwpan yr EFL.

Image
Luke Harris
Luke Harris yn chwarae i dîm dan 18 Cymru. Llun: Cymdeithas Bêl-droed Cymru.

Cafodd ei eni ar ynys Jersey, ac felly yn gallu chwarae dros Gymru, Lloegr, Yr Alban neu Ogledd Iwerddon.

Cymru oedd wedi rhoi cyfle i Harris fel chwaraewr ifanc. Roedd yn gapten ar y tîm dan 17 ac ym mis Medi 2022 cafodd ei enwi yng ngharfan Cymru ar gyfer gemau Cynghrair y Cenhedloedd yn erbyn Gwlad Belg a Gwlad Pwyl.

Liam Cullen

Chwaraewr arall o Abertawe sydd wedi'i enwi yn y garfan yw Liam Cullen.

Mae'r ymosodwr wedi cynrychioli ei wlad ar lefel ieuenctid dan 17, 19, 20 a 21, ac am y tro cyntaf mae wedi'i enwi yng ngharfan y tîm cyntaf.

Eleni mae Cullen wedi rhwydo pump o goliau i'r Elyrch, y rhan fwyaf ohonynt wrth ymddangos oddi ar y fainc.

Byddai cyflwyno Cullen i'r maes yn opsiwn i Page pe bai angen gôl arno ym munudau olaf y gêm.

Morgan Fox

Fel Liam Cullen, nid oedd Morgan Fox wedi'i enwi yn y garfan wreiddiol ar gyfer y gemau ym mis Mawrth.

Ond wedi i Ben Davies tynnu allan gydag anaf, cafodd yr amddiffynnwr Stoke City ei alw i'r garfan.

Chwaraeodd i dîm dan 21 Cymru ar saith achlysur, ond nid yw wedi chwarae i'r tîm cyntaf.

Dyma'r ail dro iddo gael ei alw i'r garfan - y tro cyntaf oedd ym mis Medi 2015 pan chwaraeodd Cymru yn erbyn Israel a Chyprus.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.