Newyddion S4C

S4C

'Llanast aruthrol' o fewn yr SNP medd prif weithredwr dros dro'r blaid

NS4C 19/03/2023

Mae prif weithredwr dros dro’r SNP wedi dweud fod “llanast aruthrol” yn y blaid yn dilyn ymddiswyddiadau staff a ffrae dros nifer aelodaeth y blaid.

Dywedodd llywydd yr SNP, Mike Russell, sydd wedi camu i lenwi swydd y prif weithredwr dros dro, fod angen i’r blaid ddechrau “mewn sefyllfa wedi’i hailosod yn llwyr” unwaith y bydd arweinydd newydd wedi ei ddewis.

Dywedodd bod yn rhaid bwrw ymlaen â phleidleisio dros arweinydd nesaf y blaid i “ailadeiladu ymddiriedaeth yr Alban”.

Fe wnaeth Peter Murrell, sy'n ŵr i Nicola Sturgeon, gamu i lawr fel prif weithredwr y blaid ddydd Sadwrn yn dilyn ffrae am niferoedd aelodaeth yr SNP.

Daeth ei ymadawiad yn fuan ar ôl ymddiswyddiad pennaeth cyfryngau'r blaid, Murray Foote, oedd wedi dweud fod Mr Murrell yn “rhwystr difrifol” i’w swydd.

Dywedodd Mr Murrell ei fod wedi cymryd cyfrifoldeb ar ôl i wybodaeth gamarweiniol gael ei ryddhau i’r cyfryngau am niferoedd aelodaeth yr SNP, ond dywedodd nad oedd “unrhyw fwriad i gamarwain”.

Aelodaeth

Cadarnhaodd y blaid yr wythnos hon y bu gostyngiad sylweddol yn nifer ei haelodaeth.

Yr wythnos ddiwethaf, fe wnaeth dau o ymgeiswyr am arweinyddiaeth y blaid i olynu Nicola Sturgeon, Kate Forbes ac Ash Regan, gwestiynu annibyniaeth y broses etholiadol.

Wrth siarad ar The Sunday Show ar BBC Scotland, dywedodd Mr Russell fod pethau wedi mynd “yn syfrdanol o chwith yn ystod yr wythnosau diwethaf” i’r SNP.

Dywedodd: “Rwy’n meddwl ei bod yn deg dweud bod yna lanast aruthrol ac mae’n rhaid i ni ei glirio, a dyna’r dasg rydw i’n ceisio ei chyflawni yn y tymor byr.”

Mynnodd fod gan gyfryngau cymdeithasol ran i’w chwarae wrth i staff yr SNP ddod “dan y pwysau a’r craffu mwyaf aruthrol”.

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.