Merch 15 oed wedi marw ar ôl cael ei tharo gan fws

Mae merch 15 oed wedi marw ar ôl cael ei tharo gan fws yn Birmingham.
Dywedodd Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr fod gyrrwr y bws yn helpu gyda'u ymholiadau i’r gwrthdrawiad yn Sheaf Lane, Sheldon, ychydig cyn 15:00 ddydd Sadwrn.
Bu farw'r ferch yn fuan ar ôl cyrraedd yr ysbyty.
Dywedodd Cwnstabl Gail Arnold, o uned ymchwilio i wrthdrawiadau difrifol Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr: “Mae merch ifanc wedi marw’n drasig a byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi ei theulu yn ystod y cyfnod anodd hwn.
“Rydyn ni’n gweithio i sefydlu’r amgylchiadau tu ôl i’r gwrthdrawiad ac rydyn ni’n awyddus i glywed gan unrhyw un oedd yn yr ardal ar y pryd, ac yn enwedig unrhyw un â lluniau camera dashcam.”