
Cynnal gwaith brys i atal difrod pellach i adeilad Gwasg Gee yn Ninbych
Cynnal gwaith brys i atal difrod pellach i adeilad Gwasg Gee yn Ninbych
Mae gwaith brys yn cael ei gynnal i atal difrod pellach i adeilad a oedd yn gartref i un o weisg pwysicaf Cymru.
Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi dweud y bydd yn cynnal gwaith i atgyweirio adeilad Gwasg Gee yn y dref, ar ôl i berchennog yr adeilad beidio â chydymffurfio â Gorchymyn Gwaith Brys i’w ddiogelu.
Cwmni Gee and Son Limited sydd yn berchen ar yr eiddo, a dywedodd llefarydd ar ran y cwmni “eu bod yn gweithio gyda’r cyngor i sicrhau dyfodol yr adeilad”.
Cyfarwyddwyr y cwmni yw Dafydd Meurig, sy’n aelod o gabinet Cyngor Gwynedd, a Morfudd Roberts.
Mae’r adeilad yn un rhestredig gradd dau ac fe chwaraeodd rhan bwysig yn hanes cyhoeddi Cymru yn yr 19eg a’r 20fed ganrif.
Yma y cyhoeddodd y perchennog Thomas Gee bapur newydd Baner ac Amserau Cymru a chwaraeodd rhan flaenllaw yn ngwleidyddiaeth ymneilltuol a rhyddfrydol y cyfnod.
Prynwyd Gwasg Gee gan yr awdur Kate Roberts a’i gŵr Morris T Williams yn yr 1930au.
Hawlio costau
Ond mae’r adeilad wedi wedi dirywio’n sylweddol ers i’r wasg gau ei drysau yn 2001.

Fis Gorffennaf y llynedd, fe gwympodd rhan sylweddol o do a thrydydd llawr yr adeilad i’r stryd gerllaw, gan orfodi’r cyngor i gynnal gwaith ar unwaith gan fod cyflwr yr adeilad yn beryglus ac yn “peri risg i fywyd”.
Roedd rhaid i beirianwyr gynnal gwaith i ddiogelu’r adeilad drwy ddymchwel y trydydd llawr dros gyfnod o naw wythnos yn ystod yr haf, gan gau rhan o’r stryd a gorfodi rhai busnesau i gau am gyfnod.
Yn dilyn ymdrechion y cyngor i gysylltu â’r perchennog ar yr achlysur hwnnw, fe ddywedodd y perchennog nad oedd modd codi’r arian oedd ei angen i dalu am y gwaith angenrheidiol.
Fel rhan o’r gwaith diweddaraf sydd wedi ei gynllunio, bydd y cyngor yn gosod gorchudd ar do’r adeilad, gosod trawstiau er mwyn atal rhannau o’r adeilad rhag cwympo, ac ail sefydlu’r waliau allanol.
Mae’r cyngor wedi hysbysu y bydd yn hawlio costau’r gwaith gan y perchennog wedi iddo gael ei gwblhau.
Yn 2007, fe gafodd cais i droi’r adeilad i 11 o fflatiau ei dynnu’n ôl gan y perchnogion. Mae trafodaethau i drosglwyddo’r eiddo i ddwylo’r cyngor wedi ei gynnal ers 2005, ond hyd yma nid oes gytundeb rhwng y ddwy ochr.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Ddinbych wrth Newyddion S4C: “Roedd y Cyngor wedi cyflwyno Rhybudd Strwythurau Peryglus i berchennog preifat yr adeilad hwn yn flaenorol ynghylch gwaith gofynnol i sicrhau diogelwch yr adeilad. Cwblhaodd y Cyngor y gwaith yn ddiofyn yn dilyn hynny.
“Yn dilyn hynny, cyflwynodd y Cyngor Rybudd Gwaith Brys ynghylch gwaith gofynnol i’r to ac ardaloedd eraill o’r adeilad er mwyn ei ddiogelu ymhellach.
“Gan na fydd y perchennog yn cydymffurfio gyda gofynion y rhybudd hwn, mae’r Cyngor ar hyn o bryd yn gwneud trefniadau ar gyfer y gwaith, gan gynnwys rhoi gorchudd dros dro ar y to, i’w cwblhau ar eu traul nhw.
“Bydd unrhyw waith a wneir gan y cyngor i wneud yr adeilad preifat hwn yn saff a diogel yn cynnwys ffioedd ar yr eiddo ar ôl ei gwblhau.”
‘Teimlo hanes o’ch cwmpas’
Cafodd cyn-ddirprwy Brif Weinidog Cymru, Ieuan Wyn Jones, ei eni a’i fagu yn Ninbych.
Yn 1998 fe ysgrifennodd cofiant i berchennog y wasg nes ei farwolaeth yn 1898, Thomas Gee, a gafodd ei chyhoeddi yn yr adeilad, ac mae’n dweud fod gan y wasg "gyrhaeddiad cenedlaethol" ar un adeg.
“Fyddwch chi’n mynd i’r swyddfa i siarad efo’r pobl oedd yn rhedeg y wasg ac yn ffeindio’ch hun yn sefyll yn swyddfa Thomas Gee ei hun, ac yn teimlo hanes o’ch cwmpas yn bob man, hanes diddorol iawn,” meddai Mr Jones.
“Wrth gwrs, mae’n drist bod yr adeilad yn y cyflwyr y mae o. Y cwestiwn yw, beth mae rhywun yn ei wneud ynghylch hynny?
“Dw i'n dal i deimlo bosib mai’r ffordd orau i feddwl fyddai amgueddfa mewn adeilad hollol newydd, yn hytrach na trio addasu’r adeilad bresennol, oherwydd y gost.
“A wedyn be ‘da chi’n neud efo’r adeilad fel y mae o ar hyn o bryd, ac mae hynny’n gwestiwn i bobl eraill ei ystyried.”
‘Iechyd a diogelwch’
Mae’r cyn-gynghorydd Sir a Tref Dibych, Gwyneth Kensler, yn byw gerllaw yr adeilad ac yn gobeithio na fydd y gwaith atgyweirio yn achosi unrhyw drafferthion pellach i fusnesau leol.
Mae hi hefyd yn galw am arddangosfa parhaol i'r wasg yn Amgueddfa Dinbych.
Ychwanegodd: “Mi fyswn i’n gobethio y byddai’r perchennog a’r cyngor yn cyd-weithio’n agos iawn.
“Roedd rhaid cau’r ffordd flwyddyn diwethaf pan roedd na ddifrod i’r adeilad a llechi ym mhobman, ac mae’n rhaid ystyried iechyd a diogelwch, ac os fydd ‘na effaith ar fusnesau, rydw i’n gobeithio mai ychydig iawn fydd yna," meddai.
“I mi, mae’r adeilad yn bwysig, nid yn unig i Ddinbych, ond i Gymru gyfan.”